Ffilm newydd i helpu i atal perthnasoedd amhriodol ar-lein yn cael ei lansio yn y Senedd

0
201

Mae ffilm animeiddiedig ac adroddiad newydd, a ddatblygwyd gan brosiect diogelwch ar-lein DRAGON-S Prifysgol Abertawe i gynorthwyo gyda hyfforddiant ar atal perthnasoedd amhriodol ar-lein, yn cael eu lansio mewn cyfarfod rhithwir o’r Senedd heddiw (dydd Llun, 26 Medi).

Nod Strong at the Broken Places – cynnyrch is-brosiect DRAGON-S, Grŵp Arbenigwyr drwy Brofiad Bywyd (LEEG) – yw sicrhau bod ymarferwyr yn clywed lleisiau pobl sydd wedi cael profiadau bywyd a’u bod yn cydnabod yr angen i amlygu eu straeon.

Bydd y ffilm animeiddiedig yn cael ei lansio mewn cyfarfod o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol, sef Arbed Dyfodol, a fydd yn rhoi sylw i’r cysylltiad rhwng niweidiau ar-lein a cham-drin rhywiol yn yr ysgol gan gyfoedion er mwyn llywio cynllun gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r broblem.

Bydd y digwyddiad hwn dan arweiniad pobl ifanc a fydd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol wrth iddynt lunio argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ynghylch sut i gadw pobl ifanc yn ddiogel ym mhob sefyllfa.

Wedi’i lansio ochr yn ochr â’r ffilm animeiddiedig, mae adroddiad DRAGON-S, Strong at the Broken Places, yn galw am greu a chefnogi grwpiau o arbenigwyr drwy brofiad bywyd yn rheolaidd wrth weithio ar brosiectau neu gynhyrchion neu wrth ddatblygu polisïau sy’n ymwneud â cham-drin plant a chamfanteisio arnynt yn rhywiol, ac yn darparu cyfres o argymhellion i amlinellu arfer gorau wrth wneud y math hwn o waith.

Dan arweiniad yr Athro Nuria Lorenzo-Dus, mae prosiect DRAGON-S (Developing Resistance Against Online Grooming – Spot and Shield) yn mynd i’r afael â pherthnasoedd rhywiol amhriodol â phlant ar-lein drwy ddau adnodd cysylltiedig: teclyn datgelu perthnasoedd amhriodol ar-lein (DRAGON-Spotter) a phorth atal perthnasoedd amhriodol ar-lein (DRAGON-Shield). 

Caiff y prosiect arloesol, a ddatblygwyd yn 2021-22, ei ariannu gan Gronfa End Violence Against Children a’i gefnogi gan ei bartneriaid, sef Llywodraeth Cymru, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian a The Marie Collins Foundation. Mae’r ffilm animeiddiedig yn rhan graidd o DRAGON-Shield, platfform hyfforddiant rhyngweithiol y prosiect ar atal perthnasoedd amhriodol, a gyflwynir ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Mae Strong at the Broken Places yn deillio o wyth mis o waith a’i nod yw pwysleisio

pwysigrwydd rhoi sylw cyffredinol i brofiadau byw.

Meddai Rhiannon-Faye McDonald, eiriolwr dioddefwyr a goroeswyr The Marie Collins Foundation: “Mae’n hanfodol bod llais profiadau bywyd yn cael ei glywed a’i gorffori yn yr holl waith rydyn ni’n ei wneud i atal plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol, a bod ymgynghori â dioddefwyr a goroeswyr yn ganolog i’r broses o’r dechrau tan y diwedd.”

Meddai’r Athro Lorenzo-Dus: “Rydyn ni’n barod i fynd â’r prosiect arloesol hwn i’r lefel nesaf. Mae llwyddiant ein menter ymchwil ar y cyd dros bron ddwy flynedd – sydd wedi cynnwys mwy na 200 o arbenigwyr diogelu plant a phrofiadau bywyd ledled Cymru, Lloegr, yr Alban, Awstralia, Canada, Seland Newydd ac Unol Daleithiau America, ochr yn ochr â mwy na 50 o blant a phobl ifanc yng Nghymru – yn golygu y gallwn ni bellach dreialu teclyn DRAGON-Shield a gwerthuso’r defnydd ohono yng Nghymru yn ystod 2023.

“Byddwn ni’n parhau i recriwtio cyfranogwyr ar gyfer y cynllun peilot ac yn ei werthuso drwy gydol yr haf ac rydyn ni’n gwahodd grwpiau defnyddwyr terfynol sydd â diddordeb i gysylltu â ni’n uniongyrchol i ddarganfod yr hyn y gallwn ni ei wneud i’ch helpu i gyfranogi.” 

Daeth y cyfarfod trawsbleidiol heddiw â gwleidyddion ynghyd â chynrychiolwyr o sefydliadau megis y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC), The Survivors Trust, Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol (RASAC) Gogledd Cymru, Stop it Now a’r elusen Cerrig Camu. Yn ogystal, bu galwad am glywed rhagor o oroeswyr yn trafod eu profiadau bywyd.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae’n bwysig ein bod ni’n helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed ar-lein a hybu ymddygiad diogel, cyfrifol ac ystyriol.

“Mae digwyddiadau fel heddiw yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar brofiadau byw plant a phobl ifanc. Rhaid i’w llais fod yn ganolog i’n gwaith gyda’n partneriaid i ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol gan gyfoedion.

“Rwy’n falch ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â DRAGON-S ar y prosiect arloesol hwn.”

Rhagor o wybodaeth am waith arloesol prosiect DRAGON-S Prifysgol Abertawe


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle