Y Bwrdd Iechyd i drafod newidiadau dros dro i wasanaethau ysbyty i blant

0
324

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod y newidiadau i wasanaethau ysbyty i blant (pediatreg) yn ne’r ardal ers 2014, yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 29 Medi.

Bydd y Bwrdd yn derbyn asesiad o’r newidiadau dros dro a wnaed yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ac Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys amserlen, y rhesymau dros newid, data ar ddiogelwch cleifion ac ystyriaeth o adborth a phrofiad cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a staff.

Yr wythnos nesaf, gofynnir i Aelodau’r Bwrdd nodi’r papur a chefnogi’r camau nesaf i ddatblygu opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau ysbyty i blant nes bod ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn cael ei agor, y rhagwelir ar hyn o bryd y bydd yn cymryd tan o leiaf 2029 i agor.

Bydd yr arfarniad opsiynau dan arweiniad clinigol yn cynnwys llais timau amlddisgyblaethol, yn ogystal â phlant a phobl ifanc, a’u rhieni neu warcheidwaid/gofalwyr. Mae’r Bwrdd Iechyd yn anelu at gynrychiolaeth gyfartal ar gyfer staff ac eraill, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, cynrychiolwyr a’r trydydd sector yn ogystal â chynrychiolaeth ddaearyddol o’r ardaloedd a wasanaethir.

Bydd yn cynnwys gwaith i gytuno ar y meini prawf pwysicaf ar gyfer dewis sut i ddarparu gwasanaethau ysbyty i blant ac asesiad o opsiynau hyfyw.

Adolygir y newidiadau dros dro canlynol yn yr adroddiad:

  • Newid ym mis Rhagfyr 2016 i oriau agor yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn ystod y dydd yn Ysbyty Llwynhelyg o 10am-10pm saith diwrnod yr wythnos, i 10am-6pm saith diwrnod yr wythnos. Hefyd, uno dros dro rotâu ar alwad dros nos yr ymgynghorwyr ar gyfer ysbytai Glangwili a Llwynhelyg, yn un rota yn Ysbyty Glangwili. Roedd y newid hwn o ganlyniad i heriau recriwtio sylweddol, gan gyfyngu ar argaeledd cymorth a goruchwyliaeth gan feddygon ymgynghorol ar y safle sydd ei angen yn yr Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg.
  • Newid ym mis Mawrth 2020 i drosglwyddo staff, offer a gwasanaethau’r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg i ofalu am gleifion ar draws de’r ardal yn Ysbyty Glangwili. Roedd hyn i gefnogi’r ymateb i’r pandemig COVID-19
  • Estyniad ym mis Medi 2021 i’r trefniant dros dro oherwydd y rhagwelir y bydd ymchwydd yn y Feirws Syncytiol Anadlol (RSV).

Mae canfyddiadau cyffredinol yn y papur materion yn dangos niferoedd isel iawn o ddigwyddiadau diogelwch cleifion a chwynion ffurfiol mewn perthynas â’r newidiadau dros dro i wasanaethau.

Yn ddiweddar, mae’r bwrdd iechyd wedi gwahodd plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi defnyddio gwasanaethau ysbyty i blant dros y blynyddoedd diwethaf, i rannu eu barn a’u profiadau.

Bu dadansoddiad hefyd o adborth cleifion drwy gydol y newidiadau i wasanaethau.

Mae’r adroddiad yn cydnabod llawer iawn o adborth a cheisiadau’n gofyn am i wasanaethau ddychwelyd i Ysbyty Llwynhelyg, ond roedd safbwyntiau gwahanol ynghylch beth ddylai’r gwasanaethau hynny fod a sut y dylid eu darparu.

Dywedodd yr Athro Philip Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol: “Rydym yn gobeithio y bydd cadernid yr adolygiad parhaus hwn, ynghyd â’r opsiynau a ddatblygwyd ar gyfer y gwasanaeth dros dro gyda mewnbwn gan ein clinigwyr a chynrychiolwyr y cyhoedd, yn rhoi sicrwydd ein bod yn craffu ac yn cynllunio gwasanaethau ysbyty dros dro yn briodol ar gyfer plant, a’u bod yn ddiogel, hygyrch, cynaliadwy a charedig. Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n cymunedau am ddatblygiad ein gwasanaethau.”

Bydd y Bwrdd yn ystyried, yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2022 yn ôl pob tebyg ac yn dilyn trafodaeth gyda’r Cyngor Iechyd Cymuned, ganlyniad y broses arfarnu opsiynau ac a oes angen ymgysylltu neu ymgynghori ar ddyfodol y gwasanaeth dros dro.

Os oes gennych chi farn gyffredinol am y ffordd y mae gwasanaethau plant yn cael eu darparu nawr ac yn y dyfodol, yr hoffech gael ystyriaeth yn ystod yr adolygiad, gallwch ymweld â’n tudalennau Dweud Eich Dweud ar ein gwefan ymgysylltu parhaus Dweud Eich Dweud Have Your Say yn: https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/rhannwch-eich-barn-gwasanaethau-plant

Gallwch hefyd gofrestru yma os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu yn y dyfodol, megis gweithdai. Bydd y gweithdai nesaf yn cael eu cynnal ar 6 a 20 Hydref 2022.

Os ydych yn blentyn, yn berson ifanc, yn riant neu warcheidwad/gofalwr sydd am roi adborth penodol i ni ar eich profiad o ofal gyda’r Bwrdd Iechyd, mae holiaduron sy’n briodol i’r oedran ar gael ar ein wardiau plant. Gallwch hefyd lenwi holiadur ar-lein trwy dudalennau gwe ein gwasanaeth cymorth i gleifion, chwiliwch am ‘adborth’ yn: https://hduhb.nhs.wales/

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau plant a’r hyn y mae ein hysbytai a’n gwasanaethau cymunedol yn ei gynnig ar gael yn: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/childrens-services/

I weld papurau’r Bwrdd, neu i weld dolen i wylio’r cyfarfod ar y diwrnod, ewch i: https://hduhb.nhs.wales/about-us/your-health-board/board-meetings-2022/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle