Angen i Gyngor Sir Caerfyrddin ddod o hyd i o leiaf £6m yng nghyllideb 2023/24, ond gallai’r ffigur fod dros £20m

0
181
By Hywel72 - Own work, CC BY-SA 3.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=71452120

Mae costau cynyddol chwyddiant, prisiau bwyd ac ynni ynghyd â mwy o alwadau byd-eang am nwyddau a gwasanaethau, yn golygu bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn wynebu diffyg sylweddol yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

Yn union fel mae’r argyfwng costau byw yn rhoi straen ariannol enfawr ar aelwydydd a busnesau ar draws y sir a thu hwnt, mae’r Cyngor a Llywodraethau lleol eraill yng Nghymru hefyd yn wynebu pwysau tebyg.

Mae hyn, ynghyd â’r costau etifeddol yn sgil pandemig COVID-19 a chynigion cyflog llawer uwch na’r hyn a ragwelwyd pan osodwyd y gyllideb eleni, yn ychwanegu baich hyd yn oed yn fwy ar gyllideb y cyngor.

Mae adroddiad sy’n mynd gerbron Cabinet y Cyngor ddydd Llun, 3 Hydref, yn rhybuddio bod yr arian sydd wedi’i ddyrannu hyd yma i’r cyngor gan Lywodraethau’r DU a Chymru llawer yn is na’r hyn sydd ei angen ar y Cyngor.

Mae’r Cyngor yn rhybuddio bod rhai penderfyniadau anodd iawn ar y gorwel ar sail y rhagolygon presennol, gyda’r posibilrwydd o leihau rhai gwasanaethau a bydd yn gwahodd trigolion roi eu barn ar sut y dylid mantoli’r gyllideb.

Bydd Cynghorwyr a Swyddogion yn cydweithio dros y misoedd nesaf i ddatblygu cynigion i sicrhau’r arbedion o £6.1 miliwn y bydd eu hangen ar gyfer y sefyllfa orau. Mae hyn dros 50% yn uwch na’r hyn a ddisgwyliwyd yn wreiddiol.

Byddant hefyd yn ystyried opsiynau i nodi meysydd ychwanegol ar gyfer arbedion pellach, pe bai angen y rhain. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai’r ffigur fod dros £20m.

Yn siarad cyn cyfarfod y Cabinet ddydd Llun, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Alun Lenny:

“Mae’n gyfnod anodd i bawb ac mae’n hanfodol ein bod ni’n cefnogi ein gilydd drwy’r cyfnod hwn o galedi economaidd. Fel aelodau’r Cabinet, byddwn yn agored gyda’r cyhoedd o’r cychwyn cyntaf  wrth i ni wynebu’r penderfyniadau anodd iawn, ond angenrheidiol hyn, i gyflawni, ar y gorau, arbedion o £6.1 miliwn yn ein cyllideb.

“Bydd gan y rhan fwyaf o bobl farn ynghylch pa wasanaethau maen nhw’n meddwl y dylent eu diogelu a pha wasanaethau y gallem ystyried eu lleihau, wrth i ni ymdrechu i wneud yr arbedion angenrheidiol yng nghyllideb y cyngor. Rydym am gael y sgwrs honno â phobl Sir Gaerfyrddin pan fydd y Cabinet yn trafod yr argymhellion i nodi meysydd y gellid arbed arian.

“Nid ar chwarae bach y byddwn yn dod i benderfyniad. Cymeradwywyd cynllun ariannol tymor canolig bresennol yr awdurdod gan y Cyngor llawn yn gynharach eleni ac roedd yn seiliedig ar amcangyfrifon o ymrwymiadau a oedd yn hysbys bryd hynny. Roedd hefyd yn seiliedig ar ragamcanion a setliad ariannol Llywodraeth Cymru.

“Roedd y cyngor wedi rhagweld y byddai chwyddiant yn 4% – rhagfynegiad darbodus iawn. Ni allai unrhyw un fod wedi rhagweld cyfradd chwyddiant o 10%, gyda’r effaith anochel ar setliadau cyflog, costiai ynni a phwysau costau byw parhaus.

“Yn y cyd-destun hwn, ac oni bai bod cynlluniau gwariant cyhoeddus yn cael eu diweddaru’n radical gan Lywodraethau’r DU a Chymru, rhaid i’r cyngor ddechrau ar y broses o nodi’r arbedion gofynnol er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni’r pwysau ariannol sydd ar y gorwel.”

Yn dilyn cyfarfod y Cabinet, bydd y cyngor yn ymgysylltu ac ymgynghori â’i drigolion.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle