Argyfwng costau byw yn flaenoriaeth i Gabinet y Cyngor

0
162
By Alisdare Hickson from Woolwich, United Kingdom - Freeze Prices - Not the Poor., CC BY-SA 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=116723935

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfarfod i drafod yr argyfwng costau byw ac i amlinellu cynlluniau ar gyfer cefnogi ei drigolion yn ystod y misoedd nesaf.

Mae helpu pobl i ddelio â chostau byw cynyddol wedi bod yn flaenllaw yng ngwaith y Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae tîm penodol o ymgynghorwyr Hwb wedi’i sefydlu i helpu cwsmeriaid sydd â phryderon am eu sefyllfa ariannol neu sydd angen cymorth o ran hawlio budd-daliadau, i wneud cais am y cymorth, y gwasanaethau, a’r arian mae hawl ganddynt iddynt.

Ers mis Ebrill eleni, mae ymgynghorwyr HWB wedi cael dros 400 o geisiadau am gyngor a chymorth gan drigolion Sir Gaerfyrddin ac wedi helpu gyda cheisiadau am ystod o gynlluniau cymorth gan y Cyngor a thrydydd partïon. Ymhlith y rhain mae Bathodynnau Glas ar gyfer parcio i bobl anabl, gostyngiadau ar y Dreth Gyngor, Taliadau Annibyniaeth Personol, a grantiau i helpu rhieni i brynu hanfodion ysgol, fel gwisg ysgol.

Mae’r Cyngor wedi gwneud taliadau o £150 i 58,263 o aelwydydd hyd yn hyn, trwy Gynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru.

Mae hefyd wedi derbyn £1.556 miliwn gan Gynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw Llywodraeth Cymru, a bydd y Cabinet yn cwrdd i benderfynu sut bydd yr arian hwn yn cael ei wario i ddarparu rhagor o gefnogaeth i’r trigolion sydd â’r angen mwyaf ar draws y sir. Ymhlith yr argymhellion mae mynd i’r afael â thlodi mewn cymunedau gwledig, cefnogi rhagor o fentrau gan 3ydd partïon, a rhoi rhagor o gefnogaeth i grwpiau agored i niwed. 

Bydd hefyd yn cwblhau’i gynlluniau i gynnal digwyddiad cydweithredu ar gostau byw yn Y Ffwrnes yn Llanelli, lle bydd gwahoddiad i bartneriaid a rhanddeiliaid lleol ddod i rannu gwybodaeth ac arfer gorau, fel gall y Cyngor weithio tuag at ddarparu pecyn cymorth gwirioneddol aml-asiantaeth i aelwydydd agored i niwed yn Sir Gâr.

Gan siarad cyn cyfarfod y Cabinet, dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac arweinydd y Cabinet ar y maes hwn, sef y Cynghorydd Linda Evans:

“Wrth i filiau barhau i godi, mae pawb yn ei gweld hi’n anoddach yn ariannol ac yn poeni’n fawr ynghylch sut allwn ni gadw dau ben llinyn ynghyd.

“Fel awdurdod, rydyn ni wedi cymryd camau’n sydyn i helpu’r rhai â’r angen mwyaf drwy ein hymgynghorwyr HWB arbenigol a’n hymgyrch Hawliwch Bopeth. Yn ystod yr haf, rydyn ni wedi llunio cynlluniau trylwyr er mwyn sicrhau’r ffordd orau o gyflwyno rhagor o gefnogaeth ariannol, drwy’r Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw, i’r rhai â’r angen mwyaf yn y sir.

“Mae’r Cyngor yn gwneud popeth yn ei allu i gydlynu a darparu cymorth lle bo modd. Ym mis Hydref byddwn ni’n cynnal digwyddiad costau byw, gan ddod ag ystod o asiantaethau partner ynghyd i ddeall yn well beth arall mae’n bosib ei wneud ar lefel leol i gefnogi’r rhai sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw.”

I gael help gan ymgynghorydd HWB neu i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth, budd-daliadau a gwasanaethau, ewch i’r dudalen Hawliwch Bopeth ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle