Brodyr yn codi £4,400 i Apêl Cemo Bronglais i ddiolch am ofal canser

0
226
Grwp Rhys a James Davies ben Cadair Idris – y criw ar gopa Cadair Idris

Da iawn i’r brodyr Rhys a James Davies a chwech o’u teulu a’u ffrindiau a gododd £4,400 i Apêl Cemo Bronglais drwy ddringo Tri Chopa Cymru.

Penderfynodd y tîm o wyth ar yr her i ddweud diolch am y gofal a gafodd Rhys, 29 oed, yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais ar ôl cael diagnosis o ganser y gaill.

Rhys a James Davies yn dathlu ar ôl cyrraedd copa Cadair Idris

Ar ôl dechrau am 4am, cwblhaodd y tîm yr Wyddfa mewn 3 awr 30 munud; Cadair Idris mewn ychydig llai na thair awr a Phen y Fan mewn ychydig llai na dwy awr.

Yn cymryd rhan yn yr her ar 10fed Medi roedd Rhys a James, eu cefnder Harri Clarke a’u ffrindiau Paul a Sion Jehu, Matthew Hamer, Gary Harlock a Gareth Edmunds.

Grwp Rhys a James Davies ar ben Cadair Idris – y criw yn barod i gychwyn ar y dringo

Dywedodd James: “Cawsom ddiwrnod gwych; am griw gwych o fechgyn i gwblhau’r her gyda nhw. Ni fu erioed eiliad ddiflas! Roedd y tywydd yn berffaith, ac fe wnaethom orffen gyda pheth heulwen ar Ben y Fan.

“Diolch i’n gyrwyr Hughie Clarke, Trefor ‘Jed’ Davies a Carol Anderson am ein bwydo hefyd. A bloedd enfawr i bawb a drodd allan i gefnogi a phawb sydd wedi cyfrannu at ein tudalen! Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r arian a godwyd ar gyfer yr achos gwych hwn hyd yn hyn!” Dyw hi dal ddim yn rhy hwyr i gyfrannu! Ewch i https://www.justgiving.com/fundraising/james-davies-11


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle