Ffion yn rhedeg hanner marathon elusennol ar ôl diagnosis canser ei llysfam

0
186
Ffion Evans and Step Mother Sue

Pob lwc i’r Swyddog Tai Ffion Evans sy’n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ar 2il Hydref i godi arian at Apêl Cemo Bronglais ar ôl i’w llys-fam gael diagnosis o ganser.

Cafodd Carol Evans, 61, sydd wedi bod yn nyrs diabetes yn Ysbyty Bronglais ers 42 mlynedd, ddiagnosis o ganser y goden fustl nôl ym mis Mai.

Ffion Cafodd Carol Evans

Dywedodd Ffion, 31, sy’n byw yn Aberystwyth ac yn gweithio i gymdeithas dai Barcud: “Penderfynais wneud yr hanner marathon fel her bersonol ac yna pan dderbyniodd Carol ei diagnosis canser penderfynais fy mod eisiau codi arian ar gyfer yr Apêl.

“Rwyf wedi bod yn hyfforddi’n eithaf caled, gyda rhediadau 10 milltir. Mae wedi bod yn dda i mi gael amser y tu allan yn yr awyr iach.”

Dywedodd Carol, sy’n byw yn Trisant: “Rwy’n falch bod Ffion yn codi arian ar gyfer uned ddydd cemotherapi newydd. Bydd llawer o bobl yn elwa gan fod canser yn cyffwrdd â chymaint o bobl.

“Ar ôl i mi fynd yn sâl ym mis Mai, fe ddigwyddodd llawer yn gyflym iawn. Mae canser y goden bustl yn eithaf prin ac yn anodd ei ganfod. Rwyf wedi cael cefnogaeth wych gan yr oncolegydd Dr Elin Jones a’r tîm canser yn Ysbyty Bronglais. Gallwch gyfrannu at dudalen codi arian Ffion yma: www.justgiving.com/fundraising/FfionEvans22

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn: “Lansiwyd Apêl Cemo Bronglais i godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen i ddechrau adeiladu uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais.

Ffion

“Rydym yn falch iawn o adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle