ae Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Hywel Dda yn cyffroes i gyhoeddi cyllid o £45,700 ar gyfer partneriaeth ddeinamig ar draws sectorau gyda Gyngor Celfyddydau Cymru i alluogi celfyddydau ar bresgripsiwn i ffynnu ar draws Hywel Dda.
Mae rhaglenni celfyddydau ar bresgripsiwn yn rhaglenni celfyddydol anghlinigol, seiliedig ar grwpiau, sydd â’r nod o wella iechyd meddwl ac ansawdd bywyd i gyfranogwyr. Cyfeirir unigolion mewn perygl neu fregus at y rhaglenni, a ddarperir yn aml yn lleol gan y sectorau celfyddydol, gwirfoddol a chymunedol
Bydd y bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), y Gymuned Ymarfer Presgripsiynu Cymdeithasol (COP) a phartneriaid celfyddydol yn datblygu ac yn darparu rhaglen lles, dysgu a datblygu cydweithredol ar gyfer presgripsiynwyr cymdeithasol/cysylltwyr cymunedol ac atgyfeirwyr ar draws y 3 sir i ymgorffori celfyddydau ar bresgripsiwn o fewn arferion presgripsiynu cymdeithasol ar draws Hywel Dda.
Nod y prosiect yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd meddwl a lles i gymunedau a chysylltwyr ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Gydag ymchwil cynyddol yn dangos rôl gadarnhaol y celfyddydau wrth hyrwyddo lles meddwl, mae’n gwneud synnwyr bod grwpiau celfyddydau iechyd y cyhoedd a’r trydydd sector yn ymuno.
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant y cyllid pwysig hwn i helpu i fewnosod Celfyddydau ar Bresgripsiwn ar draws Hywel Dda.”
“Mae’r prosiect arloesol hwn yn cyd-fynd yn agos â strategaeth iechyd a gofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach’ ac yn adeiladu ar y wybodaeth a’r sylfaen dystiolaeth gynyddol bod gan y celfyddydau rôl bwerus i’w chwarae wrth alluogi pobl ‘i fyw bywydau llawen, iach a phwrpasol’.
Dywedodd Rebecca Evans, Uwch Swyddog Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’n bleser gan Dîm Iechyd y Cyhoedd gefnogi’r fenter hon i ymgorffori’r arfer hwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ein rhwydwaith o bresgripsiynwyr cymdeithasol sy’n datblygu’n gyflym yn Hywel Dda. Mae eu prosiect yn adeiladu ar waith presennol i gefnogi a datblygu’r cysylltiadau rhwng y system iechyd a gweithgareddau cymunedol a thrydydd sector. Mae’n cryfhau’r achos dros fuddsoddi mewn grwpiau celfyddydol a chyfleoedd gwych eraill sydd gennym i bobl gysylltu â nhw, i wella ac i aros yn iach.”
Os hoffech chi gael gwybod mwy neu gymryd rhan, cysylltwch â’n Cydlynydd Celfyddydau mewn Iechyd Kathryn.lambert@wales.nhs.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle