“Roedd Plaid Cymru yn gweld hyn yn dod. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gweithredu. Yn y cyfamser mae Llafur Cymru yn llusgo eu sodlau. Mae angen rhewi rhent a gwahardd troi allan tenantiaid yng Nghymru, rwan.” – Mabon ap Gwynfor AS
Mae pwysau Plaid Cymru wedi gorfodi Llywodraeth Cymru i edrych eto ar ddeddfu rhewi rhent a moratoriwm ar droi allan tenantiaid.
Mae llefarydd Plaid Cymru ar dai, Mabon ap Gwynfor AS, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “lusgo eu sodlau” dros ddechrau’r “gwaith hollbwysig yma.”
Yr wythnos ddiwethaf ym mhwyllgor y Senedd dros Lywodraeth Leol a Thai, galwodd Mr ap Gwynfor eto am waharddiad ar bob gorchymyn troi allan ac i bob rhent gael ei rewi tan ar ôl y gaeaf, fel y cyhoeddwyd yn Yr Alban.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Gweinidog sy’n gyfrifol am dai, Julie James AS, ei bod yn edrych ar opsiynau a’i bod “yn mynd ati i gysylltu” â Llywodraeth yr Alban, er nad oedd wedi mynd ati i adolygu eu hymchwil eto.
Daeth y cyhoeddiad gan Lywodraeth Yr Alban ei bod am rewi rhenti a gwahardd troi pobl allan ar 6 Medi, ac mae disgwyl i fesurau’r Alban aros yn eu lle tan ddiwedd mis Mawrth 2023.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar dai a chynllunio, Mabon ap Gwynfor AS:
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn llaesu dwylo tra bod Cymru yn rhewi. Does dim synnwyr o frys, ac yn y cyfamser, mae’r gaeaf oer yn agosáu.
“Dylai’r gwaith hwnnw fod wedi ei gomisiynu a’i gwblhau cyn gynted â phosib, ac eto rydyn ni’n darganfod fod Llywodraeth Cymru dal wrthi yn casglu tystiolaeth.
“Roedd Plaid Cymru yn gweld hyn yn dod o bell ac wedi ailadrodd ein galwadau ar bob cyfle. Bu nifer o ymgyrchwyr ac elusennau gwrth dlodi, gan gynnwys Shelter Cymru, yn galw am hyn. Mae’n amlwg bod Llywodraeth yr Alban wedi gwneud eu gwaith. Yn y cyfamser mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn llusgo ei sodlau.
“Mae amser yn brin iawn, ac mae angen i Lywodraeth Cymru nodi eu hamserlen ar frys ar gyfer pryd y gellid gweithredu, oherwydd bydd y gaeaf arnom cyn i ni wybod hynny.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle