Mae Gŵyl Fwyd a Diod Castell-nedd yn ôl!

0
665

Mae Gŵyl Fwyd a Diod hynod boblogaidd Castell-nedd yn dychwelyd i’r dref ddydd Gwener 7 Hydref a dydd Sadwrn 8 Hydref 2022, gydag arlwy hael o’r holl gynnyrch lleol gorau.

Yn ystod yr ŵyl bydd canol tref Castell-nedd yn llawn dop â thros hanner cant o stondinau ac arddangoswyr bwyd a diod lleol, yn cynnig ystod o fwyd o Dde Cymru ac ymhellach i’w blasu a’u prynu.

Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr ymweld â chaffis, bwytai, bariau a siopau lluosog y dref, sy’n gweini cyfuniad blasus o seigiau a diodydd lleol.

Dechreuodd Gŵyl Fwyd a Diod Castell-nedd am y tro cyntaf yn 2009, ac ers hynny, mae wedi ymsefydlu fel un o brif ddigwyddiadau blynyddol canol tref Castell-nedd, ac un o’r digwyddiadau o’i fath y mae’r mwyaf o ddisgwyl ymlaen ato yng Nghymru.

Dros y blynyddoedd, tynnodd yr ŵyl sylw at amrywiaeth o gynnyrch o safon uchel sydd ar gael yn lleol, ac mae wedi canolbwyntio ar yr ystod o gynnyrch sydd ar gael gan gyflenwyr sydd wedi ennill gwobrau, gyda mwy nag 80% ohonynt yn gynhyrchwyr o Gymru.

Ymysg yr arddangoswyr a’r masnachwyr yn yr ŵyl eleni mae’r cwmni seidr tad a merch, Austringer Cider, cynhyrchwyr seidr crefft a enillodd wobrau rhyngwladol, ac a leolir ynghanol Dyffryn Afan, a’r Little Goat Brewery, Pontardawe, sy’n creu diodydd blasus fel Yankee Doodle Nanny a Satan’s Little Helper.

Hefyd ymysg y rhestr masnachwyr mae Fat Bottom Welshcakes o Fancyfelin, sy’n defnyddio menyn Cymreig, wyau fferm o Gymru a mêl o Gymru i greu’i ddanteithion, a Van Goffi, bar coffi artisan symudol a leolir yn ne Cymru.

Yn ôl y Cynghorydd Martyn Peters, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio Economaidd a Chymunedol: “Mae’n wych gweld yr ŵyl yn dychwelyd i Gastell-nedd ar ôl dwy flynedd anodd i bawb, ac i weld cymysgedd mor gyfoethog o stondinwyr yn mynychu’r ŵyl eleni.

“Bydd hefyd yn gyfle gwych i ddangos cyfoeth tref farchnad Castell-nedd ble bydd masnachwyr yn elwa o gael mwy o bobl yn dod i’r dref, a bydd yr ŵyl yn arddangos y bwyd a diod rhagorol sy’n cael ei greu yng Nghastell-nedd Port Talbot ac ar draws de Cymru.”

Mae mynediad i’r ŵyl yn rhad ac am ddim.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle