Dŵr Cymru’n dathlu Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant 2022

0
384

Gwnaeth cydweithwyr Dŵr Cymru gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant 2022, gyda chyfres o weithdai amserol a sesiynau hyfforddi ar amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle.

Fel cyflogwr positif o ran cynhwysiant, gwnaeth y cwmni annog cyfranogiad yn Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant, digwyddiad blynyddol sy’n cael ei neilltuo i ddathlu amrywiaeth a hyrwyddo pwysigrwydd cydraddoldeb yn y gweithle.  Cynhaliwyd digwyddiad eleni rhwng 26 Medi a 2 Hydref gyda’r thema “Amser Gweithredu: Pŵer Nawr”.

Yn Dŵr Cymru, cafodd yr Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant ei harwain o’r brig gan ein Prif Weithredwr, Peter Perry, yn cyflwyno galwad ar draws y cwmni, i bob un cydweithiwr, hyrwyddo gweithgareddau’r Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant, a thynnu sylw at bwysigrwydd bod yn weithle amrywiol a chynhwysol bob dydd.

Anogodd bawb i weithredu heddiw i wireddu cynhwysiant bob dydd gan annog cydweithwyr i fanteisio ar y cyfle i fynychu cyfres o weithdai a gyflwynwyd yn ystod yr wythnos gynhwysiant yn cwmpasu Cynghreiriaeth, Iaith Gynhwysol a sut y gallwn gefnogi ein gilydd yn well.

Dywedodd Pete Perry, y Prif Swyddog Gweithredol, “Ni yw un o’r busnesau mwyaf yng Nghymru ac mae’n rhaid inni fod yn fusnes sy’n adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae’n rhaid i ni i gyd fod â safbwynt y 21 ganrif ar bopeth rydyn ni’n ei wneud i greu diwylliant cynhwysol, gan wneud yn siŵr ein bod ni’n croesawu pawb i’n sefydliad waeth beth yw eu cefndir ethnig, rhywioldeb, hil, neu grefydd.”

“Dylem ni gofleidio amrywiaeth a chynhwysiant ac rwy’n annog cydweithwyr i wneud gwahaniaeth yn ein sefydliad trwy fod yn gynghreiriad a helpu cydweithwyr i deimlo’n gyfforddus a’u cefnogi fel y gallan fod yn nhw eu hunain pan fyddan nhw’n dod i’r gwaith.”

Daeth cydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad i’r sesiwn iaith gynhwysol ryngweithiol, yn ogystal â dau o’n cyfarwyddwyr anweithredol.

Mae Cyfartal i Chi yn fenter arall sy’n darparu hyfforddiant mewn amgylchedd diogel gan ddefnyddio gêm fwrdd hwyliog, rhyngweithiol a heriol. Gwnaeth Dŵr Cymru ei hyrwyddo yn ystod yr wythnos gynhwysiant ac mae sesiynau hyfforddi’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn gan sicrhau eu bod yn darparu cyfleoedd i’r holl staff gymryd rhan.

Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i fod yn gyflogwr cynhwysol drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i gynhwysiant ac i hyrwyddo ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy’n cefnogi gweledigaeth y cwmni ac sy’n cael ei harwain gan ein gwerthoedd ac yn nodi cynigion i hybu diwylliant lle mae amrywiaeth ein cwsmeriaid a’n gweithwyr yn cael ei werthfawrogi’n gadarnhaol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi’r gwaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant, penodwyd Stephne Puddy fel yr arweinydd dynodedig ar gynhwysiant. Crëwyd y rôl er mwyn helpu i roi cynllun gweithredu a gweledigaeth a rennir Dŵr Cymru.

Meddai Stephne, “Roeddwn i wrth fy modd pan newidiodd fy rôl i fod yn Arweinydd Cynwysoldeb ar gyfer Dŵr Cymru. Rydym wedi bod yn cymryd camau breision i wneud Dŵr Cymru yn lle gwell, ond rydym yn gwybod bod gennym fwy i’w wneud. Mae’r Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant yn rhoi cyfle gwych i ni ddathlu’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma ac amlygu’r meysydd y gallwn ganolbwyntio arnynt wrth symud ymlaen, ac mae gwybod ein bod yn gweithio mewn sefydliad lle mae gennym gefnogaeth yr holl dîm gweithredol yn golygu cymaint.”

Yn Dŵr Cymru, mae amrywiaeth o rwydweithiau sy’n cael eu harwain gan weithwyr, gan gynnwys:

  • Embrace (Rhwydwaith hil)
  • Cristnogion yn Dŵr Cymru
  • ABLE (Rhwydwaith Salwch Cronig a Chyflwr Iechyd Hirdymor)
  • Rhwydwaith Cynghreiriaid LHDT+
  • Rhwydwaith Menywod

Mae’r grwpiau hyn ar agor i bawb fynychu ac maent yn gyfle diogel i gydweithwyr rannu profiadau, nodi rhwystrau, a heriau a rhannu arferion gorau. Mae rhai o’r rhwydweithiau wedi eu henwebu eleni am wobrau allanol i gydnabod eu gwaith ar gynhwysiant.

Mae Dŵr Cymru yn annog unrhyw un sy’n awyddus i weithio i gyflogwr cynhwysol lle gallant fod yn nhw eu hunain bob dydd i edrych ar y swyddi gwag ar eu tudalen gyrfaoedd https://jobs.dwrcymru.com/content/Life-at-Welsh-Water/?locale=en_GB.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle