Grŵp beiciau modur yn apelio am deganau a rhoddion ar gyfer taith teganau elusennol

0
228
3 Amigos

Mae Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos yn apelio am roddion a theganau ar gyfer taith teganau elusennol fis Rhagfyr.

Cynhelir y daith ar 10 Rhagfyr 2022.

Mae’r daith yn cefnogi’r Gronfa Ddymuniadau sy’n cefnogi’r gwasanaeth gofal lliniarol pediatrig i greu atgofion i’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd y maent yn eu cefnogi. Mae’r daith hefyd yn codi arian ar gyfer Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili ac Action for Children.

Mae’r daith deganau yn ddigwyddiad poblogaidd sy’n gweld cannoedd o feicwyr modur yn casglu ac yn dosbarthu teganau.

Bydd y grŵp yn teithio i wahanol leoliadau ar draws Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn casglu ar gyfer ei apêl yn y cyfnod cyn y daith.

Mae’r casgliadau eraill fel a ganlyn:

  • 10:00am – 3:00pm ar 08/10/2022 – Morrisons, Hwlffordd
  • 10:00am – 3:00pm ar 15/10/2022 – Neuadd y Dref, Abergwaun
  • 10:00am – 3:00pm ar 22/10/2022 – ger y môr, Saundersfoot
  • 10:00am – 3:00pm ar 12/11/2022  – Aldi a Wilkinson’s, Doc Penfro
  • 10:00am – 3:00pm ar 19/11/2022 –  5 Arches Dinbych y Pysgod
  • 10:00am – 3:00pm ar 26/11/2022 – Sgwar y Castell, Hwlffordd

Bydd y daith deganau wedyn yn cychwyn am 1:00pm ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr gan ddechrau ym maes parcio tiroedd comin ym Mhenfro. Bydd y grŵp yn teithio trwy lawer o drefi de Sir Benfro ac yn gorffen y daith yn y ganolfan gynadledda ger Ysbyty Llwynhelyg lle byddant yn cyflwyno’r teganau a’r rhoddion i’r staff.

Yna ar ddydd Sadwrn 17 Rhagfyr, bydd y grŵp, ynghyd â Siôn Corn, yn dosbarthu tegannau i Ward y Plant yng Nghaerfyrddin gan adael London Road, Doc Penfro am 11am.

Dywedodd Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos: “Mae gan bob un ohonom deulu neu’n adnabod rhywun y mae eu plant wedi bod angen gofal a thriniaeth yn Ward Cilgerran. Gwyddom fod yr arian a roddir yn mynd tuag at helpu cleifion a theuluoedd ar y ward i gael profiad gwell.

“Mae’n deimlad mor dda gweld cymaint o lawenydd y mae’r daith yn ei roi i’r holl bobl sy’n dod allan i’n cefnogi. Bydd helpwyr Siôn Corn yn ymweld a dosbarthu anrhegion i’r plant yn yr ysbyty dros y Nadolig yn creu teimlad gwerth chweil.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Unwaith eto mae Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos yn mynd gam ymhellach i gefnogi gwasanaethau plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Mae eu taith enwog bob amser yn llwyddiant ysgubol ac yn dod â hwyl y Nadolig i lawer o blant a gefnogir ar draws rhanbarth Hywel Dda. Ni allwn ddiolch digon iddynt am eu hamser, eu hymdrech a’u hymroddiad i godi arian. Os gallwch chi, cefnogwch y 3 Amigos y Nadolig hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau a lleoliadau casglu, cysylltwch â Ness ar 07971 774893 neu Mark ar 07585 040206.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle