Diolch i roddion i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae cwnselydd teulu wedi’i benodi i’r Tîm Gofal Lliniarol Pediatrig.
Bydd prosiect peilot dwy flynedd sy’n darparu’r cwnselydd teulu newydd yn hybu lles plant a phobl ifanc a’u teuluoedd sy’n byw gyda diagnosis sy’n cyfyngu ar eu hoes neu’n bygwth bywyd ac yn rhoi cymorth emosiynol iddynt.
Bydd y cwnselydd teulu o fudd enfawr i’r gwasanaeth, gan ddarparu gwelliannau i brofiad cyffredinol y claf a’r teulu ar draws tair sir Hywel Dda.
Trwy gydol salwch plentyn neu berson ifanc, gall y claf, rhieni, gofalwyr, neu frodyr a chwiorydd brofi anawsterau mewn perthynas, pryder, a phroblemau iechyd meddwl.
Mae cwnselydd teulu yn gallu rhoi mesurau ataliol ar waith a all gael effaith uniongyrchol ar y claf, rhieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd, gan wella eu sgiliau ymdopi a hyrwyddo gwydnwch ac ansawdd bywyd.
Bydd y cwnselydd teulu yn gweithio ochr yn ochr â’r Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig i wella’r ddarpariaeth gofal, naill ai yn y cartref, yn rhithiol, neu drwy gysylltu â gwasanaethau cymunedol megis gofal cymdeithasol ac addysg
Dywedodd Rebecca Mcdonald, Nyrs Gofal Lliniarol Pediatrig: “Chwe mis i mewn i’r prosiect trawsnewidiol hwn, rydym eisoes yn gweld buddion uniongyrchol a gwelliannau enfawr i iechyd a lles emosiynol a seicolegol ein plant a’u teuluoedd sy’n byw gyda chyflwr sy’n cyfyngu ar eu hoes neu’n bygwth eu bywydau yn Hywel Dda trwy waith cwnsela unigol, teulu a grŵp.
“Mae cael y cwnselydd teulu wedi’i wreiddio yn ein tîm wedi bod yn fuddiol i wella’r gofal a ddarperir i’r plant a’r teuluoedd hyn. Mae’r cymorth sy’n cael ei gynnig yn gwella gwydnwch ac yn eu grymuso fel unigolion, gan roi’r offer iddynt wella a chefnogi eu mecanweithiau ymdopi o amgylch galar a phrofedigaeth ragweladwy. Rydym yn gyffrous i weld sut mae’r prosiect hwn yn datblygu ac yn symud ymlaen gan ei bod yn amlwg yn y cyfnod cynnar hwn ei fod yn cael effaith mor gadarnhaol.”
Dywedodd defnyddiwr gwasanaeth: “Mae’r cwnselydd teulu wedi bod yn hollbwysig yn dilyn colli fy mab. Mae cael apwyntiadau cyson a rheolaidd wedi bod yn ddefnyddiol. Rwyf mor ddiolchgar bod y gwasanaeth hwn ar gael i mi.”
Ychwanegodd defnyddiwr gwasanaeth arall: “Mae’n hawdd siarad â’r cwnselydd teulu a darparodd amgylchedd diogel ac anfeirniadol i drafod yr holl faterion yn ymwneud â gofal lliniarol a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar ein bywyd teuluol.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle