Rosemary yn dathlu penblwydd yn 60 oed drwy godi arian ar gyfer apêl cemo

0
267
Above: Rosemary Tudor is pictured with husband Richard, children Leisia, Dylan and Lois and family pet Deio

Pen-blwydd Hapus i Rosemary Tudor, a nododd ei phen-blwydd yn 60 oed trwy godi mwy na £5,000 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Dywedodd Rosemary, a gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2008 ac sydd yn cael triniaeth canser bellach: “Doedd dim dathliad pen-blwydd eleni gan fy mod yn derbyn triniaeth bôn-

gelloedd y diwrnod hwnnw, ar ôl cwblhau 16 wythnos o gemotherapi dros yr haf.

“Penderfynais ofyn am roddion ar gyfer Apêl Cemo Bronglais yn lle anrhegion oherwydd mae’r uned ddydd yn agos iawn at fy nghalon ac mae’n achos teilwng iawn.

“Mae’r uned wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd ers 14 mlynedd ers i mi gael diagnosis o ganser y fron. Nawr rydw i wedi cael diagnosis o Myeloma Lluosog ac, ar ôl cael trawsblaniad bôn-gelloedd, byddaf yn cael cemotherapi pellach yn yr uned.

“Y codi arian yw fy ffordd i o ddweud diolch i’r staff anhygoel sy’n gweithio ar yr uned cemotherapi. Rydym mor ffodus i’w cael. Rydych chi’n teimlo fel unigolyn, maen nhw mor ofalgar a chyfeillgar.”

Dywedodd Rosemary ei bod hi wedi gosod targed o £250 iddi hi ei hun yn wreiddiol. “Rwyf wedi cael fy syfrdanu’n llwyr gan faint o arian sydd wedi’i gyfrannu, gan deulu a ffrindiau ond hefyd gan bobl nad wyf yn eu hadnabod sydd wedi cael eu cyffwrdd gan ganser,” ychwanegodd.”

Mae Rosemary yn byw gyda’i gŵr Richard ar eu fferm cig eidion a defaid ger Y Gors, Aberystwyth. Mae ganddyn nhw dri o blant – Leisia, Dylan a Lois – ac maen nhw i gyd yn y llun gydag anifail anwes y teulu Deio.

Lansiwyd Apêl Cemo Bronglais i godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen i ddechrau adeiladu uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais. Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i Rosemary am ei chefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi rhoi i’n helpu i gyrraedd ein targed.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk



Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle