Staff meithrinfa yn cynllunio taith gerdded ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
362
Uchod: staff Gofal Plant Gogerddan

Mae staff Gofal Plant Gogerddan yn heicio i fyny Cadair Idris ar 22 Hydref i godi arian ar gyfer Apêl Cemo Bronglais ar ôl i un o’u cydweithwyr gael diagnosis o ganser y fron.

Mae pedwar ar ddeg o’r 28 o staff ym meithrinfa’r plant ym Mhenrhyncoch, ger Aberystwyth, yn cymryd rhan ac maen nhw’n rhannu’n ddau grŵp, un yn gwneud y daith gerdded 11 milltir lawn i’r copa ac yn ôl ar lwybr Minffordd, a’r llall yn gwneud y daith fyrrach, taith chwe milltir i’r llyn, Llyn Cau, ac yn ôl.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y feithrinfa, Emma Healy: “Rydyn ni’n gwybod y bydd y

daith gerdded yn anodd, gydag esgyniad o 4,000 troedfedd, ond rydyn ni’n gobeithio cwblhau sialens y copa lawn mewn wyth awr. Rydym yn mynd i fod yn gwneud rhywfaint o hyfforddiant ar y llwybr arfordirol i geisio paratoi ein hunain.

“Roedden ni eisiau cefnogi’r Apêl oherwydd bod un o’n haelodau staff, Jacqueline Walters, yn derbyn triniaeth yn yr uned ddydd cemotherapi ar hyn o bryd ac mae hi’n gweld yn uniongyrchol sut mae angen uned newydd a’r effaith y bydd yn ei chael.

“Hefyd, mae rhai o’r staff wedi colli anwyliaid i ganser ac roedden ni i gyd eisiau helpu’r Apêl i gyrraedd ei tharged.”

Cafodd Jacqueline, 51, sy’n nyrs feithrin yn y ganolfan gofal plant ac yn byw ym Mronnant, ddiagnosis o ganser y fron ym mis Ebrill ac ar ôl llawdriniaeth mae bellach yn derbyn cemotherapi yn yr uned.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd bod fy nghydweithwyr yn codi arian ar gyfer yr Apêl. Mae staff yr uned i gyd wedi bod yn wych.”

Os hoffech gyfrannu at sialens meithrinfa Gogerddan, ewch i https://www.justgiving.com/GogerddanChildcare22

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Lansiwyd Apêl Cemo Bronglais i godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais.

“Rydym yn falch iawn o adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle