Cwmni hamdden awyr agored yn codi mwy na £3,000 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
200
Uchod: Yn y cyflwyniad siec (o'r chwith) mae Rheolwr Gyfarwyddwr Afan Andrew Davies, y peiriannydd Jon Burr, Gwerthwr a Pheiriannydd Matthew Milican, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda Bridget Harpwood a Gwerthwr Stuart Hickman

Trefnodd staff yn Afan Outdoor Leisure daith feic 18 milltir i godi arian at Apêl Cemo Bronglais – a chodwyd swm gwych o £3,182.

Trefnwyd y daith gan y cynorthwyydd gwerthu Stuart Hickman a’r peiriannydd Jon Burr a chymerodd mwy na 50 o aelodau staff a pherthnasau ran.

Cymerodd Cyfarwyddwr Afan, Andrew Davies, ran ar feic peni-ffardding a dim ond dwywaith y disgynnodd!

Dywedodd Stuart, 51, sy’n feiciwr brwd ei hun: “Roedd yn ddigwyddiad teuluol gwych ar ddiwrnod braf, heulog. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran ac a gefnogodd i’n helpu i godi swm gwych ar gyfer yr Apêl.

“Roedd Tŷ Glöynnod Byw Magic of Life Butterfly House yng Nghwm Rheidol yn hael iawn yn darparu dŵr a chacennau i ni, a chaniatáu i ni ddefnyddio eu cyfleusterau hanner ffordd.”

Ychwanegodd Stuart: “Rydyn ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio gan ganser. Mae Apêl Cemo Bronglais yn elusen leol sydd o fudd i’n cymunedau lleol ac rydym yn ffodus i gael uned ddydd cemotherapi yn lleol i ni.”

Dechreuodd y digwyddiad o safle Afan ar Stad Ddiwydiannol Glan Yr Afan a chymerodd lwybr allan i Gwm Rheidol ac yn ôl.

Cwblhaodd grŵp bach o bobl nad oeddent yn feicwyr daith gerdded 10k ar y diwrnod yn lle hynny.

Yn y cyflwyniad siec (o’r chwith) mae Rheolwr Gyfarwyddwr Afan Andrew Davies, y peiriannydd Jon Burr, Gwerthwr a Pheiriannydd Matthew Milican, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda Bridget Harpwood a Gwerthwr Stuart Hickman.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle