Mae gan Elusennau Iechyd Hywel Dda nifer cyfyngedig o leoedd elusennol am ddim ar gyfer Marathon ABP Casnewydd Cymru.
Cynhelir y Marathon ddydd Sul 16 Ebrill 2023.
Mae’r ras boblogaidd yn ffefryn mawr yng nghalendr rhedeg Cymru ac yn gyfle perffaith i godi arian ar gyfer eich elusen GIG leol. Mae’n cynnwys un o’r llwybrau marathon mwyaf gwastad yn y DU: mae dros 70% o’r holl orffenwyr wedi hawlio’r gorau personol ar lwybr sy’n cynnig tirnodau eiconig, fel Pont Gludo’r ddinas a golygfeydd godidog Gwastadeddau Gwent – gyda’i bywyd gwyllt arfordirol a phentrefi canoloesol hardd.
Nid oes ffi mynediad i gyfranogwyr, dim ond ymrwymiad i godi lleiafswm o £350 i’r elusen. Gall cyfranogwyr ddewis codi arian ar gyfer ward, gwasanaeth neu adran benodol.
Bydd pob cystadleuydd yn derbyn potel ddŵr am ddim a chrys-t elusen i’w gwisgo ar ddiwrnod y ras yn ogystal â medal a thystysgrif ar ôl ei chwblhau.
Yn ddiweddar cymerodd Lydia Hayward ran mewn marathon i godi arian i’r elusen. Dywedodd Lydia: “Rwyf wedi cwblhau fy marathon cyntaf erioed yn ddiweddar ar y Penwythnos Cwrs Hir ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, gan godi arian ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn. Roedd yn brofiad anhygoel ac rwy’n teimlo cymaint o ymdeimlad o gyflawniad.
“Mae wastad wedi bod yn rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud, ond doeddwn i erioed wedi teimlo’n barod. Y gwir yw, dim ond y cymhelliant sydd ei angen arnoch chi, a gwneud hyn ar gyfer achos mor wych, gyda chydweithwyr eraill, oedd fy nghymhelliant. Os ydych yn ystyried cymryd rhan yn eich marathon cyntaf yna ewch amdani, ni fyddwch yn difaru.”
Gall y rhai sydd â diddordeb mewn sicrhau lle elusennol am ddim yn y digwyddiad gofrestru yma: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/hywel-dda-health-charities/hywel-dda-health-charities/abp-newport-wales-marathon-2023/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle