AMSER I GANU!

0
1255

Mae sesiynau hwyliog Canu&Gwenu a gaiff eu cynnal yn ystod y dydd gan elusen Goldies Cymru, yn awr yn ôl yn eu hanterth gyda mwy i gael eu hychwanegu yn yr wythnosau i ddod, gan gyrraedd mwy o gymunedau yng Nghymru.

“Mae’r galw am ein sesiynau Canu&Gwenu hwyliog ar draws Cymru yn wych,” meddai Cheryl Davies, Arweinydd Rhaglen Cymru.

“Mae pobl hŷn ledled Cymru wedi gweld colli cymdeithasu a bod gyda’i gilydd, yn arbennig y rhai oedd yn mynychu ‘Goldies’ yn rheolaidd.”

Ers ail-ddechrau ein sesiynau canu wyneb i wyneb, mae Goldies Cymru wedi croesawu chwech o arweinwyr sesiwn newydd i ateb y galw am ganu cymunedol, ond “Rydyn ni bob amser yn edrych am fwy,” meddai Cheryl.

Gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, mae Goldies Cymru wedi cyflwyno sesiynau newydd ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Gan weithio gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, cafodd sesiynau eu lansio yng Nghrymych, Maenclochog ac Abergwaun, yn ogystal â dod â sesiynau Canu&Gwenu i ganolfannau cyfarfodydd Dementia rhanbarthol mewn partneriaeth gyda Dementia Matters ym Mhowys.

Mae Goldies Cymru yn dathlu eu 10fed pen-blwydd eleni, felly mae’r cynlluniau ar y gweill ar gyfer dathliad ym mis Tachwedd yn Eglwys Park End (Heol Llandennis, Caerdydd) gyda chefnogaeth barhaus Sefydliad Moondance. Caiff y rhai sy’n mynychu sesiynau Canu&Gwenu o bob rhan o Gaerdydd eu gwahodd i’r dathliad, lle bydd sesiwn estynedig Canu&Gwenu gyda’r Arweinwyr Sesiynau, gwisgo hetiau parti y byddant yn eu gwneud eu hunain allan o ffoil a chymryd rhan yng nghystadleuaeth goginio “The Great Goldies Bake-off”.

Bydd Grenville Jones, sefydlydd Goldies yn ymuno â’r dathliad. Dywedodd:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn ato, cyfle gwych i weld ystafell llawn o’n ‘Goldies’ Nod hyn i gyd yw diolch iddynt am eu holl gefnogaeth dros y blynyddoedd.”

Ychwanegodd Cheryl:

“Os ydych yn mwynhau cyd-ganu gyda chaneuon hoff o’r 50au ymlaen, ewch draw i’ch sesiwn agosaf, gwneud ffrindiau a MWYNHAU. Rydym yn elusen gofrestredig a gofynnwn i’r rhai sy’n mynychu roi cyfraniad o £3 i’n gwaith fel y gallwn gynnal mwy o sesiynau, gan ymestyn mas i bobl ynysig hŷn ledled Cymru.”

I gael mwy o wybodaeth ar sesiynau Canu&Gwenu yn agos atoch chi www.goldiescymru.org.uk.

Os credwch y gallech fod yn arweinydd sesiwn Goldies, Cymru, cysylltwch â Cheryl, e-bost cheryl@goldiescymru.org.uk neu ffonio 07860 944410 os gwelwch yn dda.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle