Cymorth Iechyd y Genfaint Menter Moch Cymru yn “amhrisiadwy” i fusnes ffermio moch ffyniannus

0
238
Suzy Williams gyda’i Moch bach

Mae cymorth iechyd y genfaint a gynigir gan Menter Moch Cymru yn helpu busnes ffermio moch o Orllewin Morgannwg i gyflawni ei nodau iechyd a lles moch.

Mae Suzy Williams yn cyfaddef bod ganddi “obsesiwn”‘ am iechyd a lles y genfaint o foch y mae hi’n ei ffermio gyda’i gŵr, Martyn, a’i meibion, Logan a Ben, gan fabwysiadu ymagwedd ‘safon aur’ at y ddau.

Roedd y pâr wedi bod yn gweithio mewn swyddi y tu allan i fyd ffermio pan gawsant eu cyflwyniad cyntaf i fagu moch.

“Fe wnaethon ni helpu ffrind a oedd yn sefydlu menter arallgyfeirio ar y fferm ac yn gyfnewid am hynny rhoddodd gwpl o foch i ni. Felly, fe wnaethon ni fagu’r moch a gwerthu’r cig i deulu a ffrindiau,” meddai Suzy.

Ac felly heuwyd hadau ei hangerdd dros foch, gan arwain at y pâr yn rhoi’r gorau i’w swyddi i ganolbwyntio ar fridio a magu moch fel busnes llawn amser ar eu tyddyn yn Heol Pentre, Pontarddulais.

Erbyn hyn mae ganddynt 100 o foch Cymreig ac maent yn gwerthu cig trwy eu busnes.

O’r eiliad y gwnaethant sefydlu’r genfaint, mae’r cwpl wedi rhoi pwyslais mawr ar statws iechyd eu moch. Mae Cynllun Iechyd y Genfaint blynyddol, a ariennir yn llawn gan Menter Moch Cymru ac a ddarperir gan filfeddyg fferm y teulu Williams, The George Vet Group, wedi chwarae rhan bwysig yn hynny.

Suzy Williams gyda Nesta

“Mae gennym berthynas dda iawn gyda’n milfeddyg fferm felly mae wedi bod yn wych bod cynllun Menter Moch Cymru yn caniatáu i ni weithio gyda hi oherwydd ei bod eisoes yn adnabod ein cenfaint,” meddai Suzy.

Cynllunio iechyd rheolaidd a gweithredol yw’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o leihau clefydau a gwella lles, meddai.

Roedd adnodd Menter Moch Cymru, y maent wedi cael mynediad ato ers tair blynedd, yn fwy gwerthfawr nag erioed yn ystod y pandemig. Bryd hynny, diflannodd eu siopau gwerthu yn y sector gwasanaethau bwyd dros nos ac roedd eu cyllideb dan bwysau.

“Cawsom dawelwch meddwl ar ôl gwybod bod y cyllid ar gyfer cynllun iechyd y genfaint wedi’i gynnwys,” mae Suzy yn cyfaddef.

Mae gweminarau hyfforddi a gynhaliwyd gan Menter Moch Cymru wedi bod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth.

Maent wedi mynychu 26 o sesiynau ar amrywiaeth o bynciau. Mae’r rhain nid yn unig wedi cynyddu gwybodaeth y ddau am iechyd moch, hwsmonaeth a rheolaeth ond maent wedi rhoi llwyfan iddynt ofyn cwestiynau.

“Maen nhw’n lleoedd diogel i godi ymholiadau am bethau nad ydych chi’n hyderus yn eu cylch, pethau y gallwn i fod yn ansicr i roi fy llaw i fyny i ofyn cwestiwn amdanynt pe bawn i mewn cyfarfod mewn ystafell sy’n llawn pobl,” meddai Suzy.

“Er enghraifft, rydym wedi bod yn gwneud AI ers nifer o flynyddoedd ond roedd llawer o bethau yr oeddwn yn ansicr ohonynt felly roedd yn wych cael gweminar ar y pwnc hwn a chyfle i ofyn cwestiynau heb ofni cael fy marnu.”

Roedd hyfforddiant ymarferol a ddarparwyd gan Menter Moch Cymru ar gigyddiaeth a phrosesu wedi helpu’r pâr i ddatblygu’r busnes.

Roedd y gigyddiaeth yn cael ei wneud yn flaenorol yn y lladd-dy lle mae’r moch yn cael eu prosesu ond ers derbyn yr hyfforddiant yn 2017, mae Martyn yn gwneud hyn gyda chymorth, yn fwy diweddar, gan Logan, sy’n 19 oed.

“Rydym bob amser wedi gwneud ein selsig a’n bacwn ein hunain ond gwnaethom newid i wneud popeth yn fewnol gan ei fod yn rhoi mwy o opsiynau i ni ar yr hyn a wnawn gyda’r carcas, i ychwanegu gwerth ato,” esbonia Suzy.

“Gallwn sicrhau tarddiad ac ansawdd o’r dechrau i’r diwedd.”

Mae costau hefyd yn cael eu lleihau gan nad oes angen iddynt dalu am y gwasanaeth hwn mwyach.

Mae’r cwpl wrthi’n ceisio sicrhau grant o £750 gan Menter Moch Cymru ar gyfer cymorth marchnata gan fod llawer o’u gwerthiannau’n cael eu cynhyrchu drwy eu siop ar-lein a’u gwasanaeth cludiant lleol.

Fel rhan o hyn, maent wedi datblygu cynllun busnes hefyd.

‘Capten Clipfwrdd’ yw Martyn, mae ganddo obsesiwn â thaenlenni, ond mae help gyda chynllun busnes wedi bod yn ddefnyddiol iawn,” meddai Suzy.

Mae ffermio moch wedi bod yn “broses ddysgu enfawr” ond yn hynod foddhaol, mae’n ychwanegu.

“Roedden ni’n meddwl mai ‘breuddwyd gwrach’ oedd e, y gallwn ni wneud hyn fel bywoliaeth, ac er efallai nad dyma’r ffordd fwyaf proffidiol o ennill bywoliaeth mae’r goleuadau ymlaen ac mae bwyd ar y bwrdd.

“Rwy’n cofio clywed rhywun yn dweud y dylech chi fwynhau bob dydd fel petai eich diwrnod olaf ydyw, ac i ni, mae bob dydd yn dod â mwynhad a phrofiadau newydd. Rydym yn ddiolchgar am hynny.”

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle