Elusen GIG Lleol i Bweru Hanner Marathon Cymru 2023

0
508
Uchod: cyfranogwr 2022 James Day a gododd arian ar gyfer yr Uned Penderfyniadau Clinigol i Oedolion yn Ysbyty Llwynhelyg, lle mae'n gweithio

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen GIG swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi’i chyhoeddi fel partner “Powered By” ar gyfer Hanner Marathon Cymru ym Mhenwythnos Cwrs Hir 2023.

Mae’r elusen, sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous i’w chefnogwyr ar draws holl ddigwyddiadau Penwythnos Cwrs Hir 2023.

Mae Hanner Marathon Cymru, a gynhelir ar 2 Gorffennaf, wedi cael ei chydnabod yn eang fel un o’r rasys gorau a mwyaf heriol. Gyda golygfeydd godidog o’r môr a thir tonnog, anodd, mae’r digwyddiad yn dechrau yng Nghastell Penfro ac yn gorffen yn Ninbych-y-pysgod.

Yr Hanner Marathon yw un o uchafbwyntiau Penwythnos Cwrs Hir a gynhelir ar 30 Mehefin – 2 Gorffennaf, a dyma’r ŵyl aml-chwaraeon fwyaf yn Ewrop, gan ddenu dros 10,000 o athletwyr a 35,000 o gefnogwyr o 45 o wledydd. Mae digwyddiadau’n cynnwys Nofio Cymru, Sportive Cymru (beicio) a digwyddiadau i blant.

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Yr elusen oedd y partner “Powered By” yn nigwyddiad 2022, ac roedd yn llwyddiant mawr. Cododd ein codwyr arian anhygoel dros £10,000 ar gyfer eu helusen GIG leol – a chawsant amser gwych yn y broses!

“Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Activity Wales Events yn 2023. Rydym yn cynnig cyfleoedd unigryw i’n cefnogwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws y Penwythnos Cwrs Hir cyfan. Mae ein nifer cyfyngedig o leoedd rhad ac am ddim yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin, felly os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni!”

Dywedodd Matthew Evans, Prif Swyddog Gweithredol Penwythnos Cwrs Hir: “Rydym wrth ein bodd mai ein helusen GIG leol yw’r partner “Powered By” ar gyfer Hanner Marathon Cymru 2023. Mae Hanner Marathon Cymru yn ddigwyddiad arbennig i gynifer o bobl ac rydym yn falch iawn y byddwn gyda’n gilydd yn codi arian at achos mor wych.”

Fel rhan o’u partneriaeth unigryw mae gan Elusennau Iechyd Hywel Dda leoedd nofio, beicio a rhedeg ar gael i godwyr arian. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ymweld â: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/elusennau-iechyd-hywel-dda/elusennau-iechyd-hywel-dda1/penwythnos-cwrs-hir-2023/ neu gysylltu â Thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda dros y ffôn ar 01267 239815 neu drwy e-bost yn Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle