Llys-y-frân yn bachu Gwobr Croeso!

0
324
Croeso Awards LYF Activity Provider of the Year 20th Oct 2022

Roedd y tîm yn atyniad ymwelwyr Dŵr Cymru Welsh Water yn Llys-y-frân wrth eu bodd i dderbyn Gwobr Croeso am ‘Ddarparydd Gweithgaredd/Profiad y Flwyddyn’ yn seremoni wobrwyo gyntaf y Gwobrau Croeso yng Nghrug Glas, Tyddewi, wedi ei threfnu gan Groeso Sir Benfro.

Activity Instructors at Llys-y-frân with Johnston Community Primary School pupils

Dywedodd Mark Hillary, Rheolwr yr Atyniad Ymwelwyr, ‘Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i’r diwydiant twristiaeth, ac roedd ailagor y safle pan oedd y pandemig yn dal i fynd yn ei flaen yn ymestynnol dros ben.  Rydyn ni wedi tynnu at ein gilydd fel tîm ac wedi llwyddo i gyflwyno gweithgareddau ar draws y safle ar dir sych ac ar y dŵr.

Croeso Awards LYF Activity Provider of the Year 20th Oct 2022

Aeth Mark ymlaen i ddweud, ‘Mae’r wobr yma’n destament i waith caled ac ymroddiad y tîm. Rwy’n hynod o falch ohonyn nhw; mae eu hegni a’u hangerdd wedi gwneud Llys-y-frân yn atyniad ymwelwyr llwyddiannus sy’n darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a phrofiadau cofiadwy. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at ddatblygu’r hyn sydd gan Lys-y-frân i’w gynnig ymhellach, gyda digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, a thrwy ychwanegu dathliadau, a seremonïau a brecwastau priodas yn y ganolfan ymwelwyr.’

Matt Davies Activity Instructor at Llys-y-frân

Mae Llys-y-frân yn falch o gefnogi Croeso Sir Benfro ac mae’n gweithio ar y cyd â nhw i hyrwyddo’i weithgareddau a’i rhaglen o ddigwyddiadau. Ychwanegodd Mark, ‘Mae derbyn cydnabyddiaeth gan Groeso Sir Benfro a’n tebyg yn niwydiant twristiaeth Sir Benfro yn gamp a hanner. Mae Croeso Sir Benfro’n cynnig cyfleoedd marchnata bendigedig ac yn llais cyffredin i’r diwydiant twristiaeth yn Sir Benfro, sy’n amhrisiadwy.’

Croeso Awards LYF Activity Provider of the Year 20th Oct 2022

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur i’r tîm wrth iddynt baratoi ar gyfer Ffair Fwyd a Diod yr Hydref, a gynhelir yfory, 22 Hydref 10am – 4pm yn y ganolfan ymwelwyr. Bydd ugain o stondinau’n gwerthu cynnyrch bwyd a diod, a fydd yn cynnwys caws, gwirodydd, seidr, cacennau, cyflaith, cyffeithiau a bwyd y traeth. Bydd mynediad am ddim, a bydd y caffi ar agor drwy’r dydd yn gwerthu paneidiau, cacennau a chinio. Mae’r siop anrhegion wedi ehangu ei ddewis, ac erbyn hyn mae’n cynnig crefftwaith lleol gan gynnwys carthenni, blancedi a llwyth o anrhegion Nadolig bychain i bobl sydd am gychwyn eu siopa Nadolig yn gynnar. Am fanylion, ewch i: <https://llys-y-fran.co.uk/events/food-fair-2022/>

Mae cynlluniau ar droed am safle gwersylla newydd yn Llys-y-frân, a disgwylir i’r gwaith ddechrau yn 2023. Bydd hyn yn cyfoethogi’r cynnig i ymwelwyr â llety a gweithgareddau oll mewn un lle.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle