Dwedwch eich dweud ynghylch y cynigion blaengar newydd i gefnogi ffermwyr yn y Sioe Laeth

0
480
Lesley Griffiths MS Minister for Rural Affairs

Mae dychweliad Sioe Laeth Cymru yn darparu cyfle gwych i bobl ddysgu mwy am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’n rhaglen gydlunio, mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi dweud.

Mae’r digwyddiad sy’n dathlu’r diwydiant llaeth yn dychwelyd yfory (dydd Mawrth 25 Hydref) ar ôl colli tair blynedd oherwydd effeithiau pandemig COVID.

Bydd Llywodraeth Cymru ar faes y sioe yng Nghaerfyrddin, ac mae’r Gweinidog yn annog pobl i ymweld â’r stondin a dysgu rhagor am y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Yn ogystal, mae arolwg ar-lein y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi cael ei estyn i 21 Tachwedd, i sicrhau bod gan bobl ddigon o amser i roi eu hadborth gwerthfawr ar gamau gweithredu a phrosesau arfaethedig y cynllun.

Mae’r arolwg ar gael yma.

Mae camau i gefnogi cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, i wella bioamrywiaeth ac i atgyfnerthu’r economi wledig yn rhan o’r cynigion sy’n amlinellu’r camau nesaf yn y gwaith o lunio cynllun blaengar Cymru ar gyfer cefnogi ffermwyr.

Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn nodi newid sylweddol, a bydd yn hanfodol wrth helpu ffermwyr Cymru i sicrhau amgylchedd ac economi wledig fwy cadarn.

Rhoddir cymorth ariannol i ffermwyr am y gwaith maen nhw’n ei wneud i ymdrin â heriau’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, wrth iddyn nhw gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy.

Mae creu system newydd ar gyfer cefnogi ffermwyr a fydd yn cynyddu pŵer amddiffynnol natur cymaint ag y bo modd drwy ffermio, gan gydnabod anghenion penodol ffermydd teulu Cymru, a chydnabod bwyd sy’n cael ei gynhyrchu mewn modd ecolegol gynaliadwy, yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu.

Bydd y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm a Chyswllt Ffermio hefyd yn y sioe er mwyn rhoi cymorth i ffermwyr ar faterion eraill.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae’n wych gweld Sioe Laeth Cymru yn ôl ar ôl absenoldeb o dair blynedd.

“Mae gennyn ni ddiwydiant llaeth gwych yma yng Nghymru, ac mae’n dda gen i y bydd cymaint o bobl yn dod ynghyd yng Nghaerfyrddin i ddathlu’r sector a’i lwyddiannau. 

“Mae’r digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i bobl ddod a siarad â ni a’n helpu i ddatblygu ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

“Yn yr haf, cyhoeddais i gynigion amlinellol y cynllun mewn cryn dipyn mwy o fanylder nag sydd wedi cael ei rannu yn flaenorol. Roedd hyn yn cynnwys amlinellu strwythur y cynllun, gwybodaeth am gamau arfaethedig a’r broses i ffermwyr ar gyfer gwneud cais.

“Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n ffermwyr i sicrhau bod y Cynllun hwn yn gweithio iddyn nhw ac ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i ymweld â’n stondin ni ac i roi adborth drwy ein harolwg ar-lein.

“Hoffwn i ddymuno pob llwyddiant ar gyfer y digwyddiad hwn i bawb yn Sioe Laeth Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle