Caffi yn cyfrannu at Apêl Cemo Bronglais

0
181
Uchod: O’r chwith, yn y cyflwyniad siec mae goruchwyliwr caffi Gemma Moseley-Collins, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda Bridget Harpwood, a’r perchnogion Cheryl Webster ac Amanda Brydon

Mae perchnogion Mikey’s Café Bar yn Aberystwyth wedi rhoi £1,576 i Apêl Cemo Bronglais ar ôl cynnal dwy raffl i gwsmeriaid.

Roedd y perchnogion Nettie Richards, Cheryl Webster ac Amanda Brydon eisiau codi arian ar gyfer yr Apêl oherwydd bod Cheryl yn cael cemotherapi yn yr uned ddydd ac yn aros am lawdriniaeth yn Ysbyty Bronglais.

Dywedodd Nettie: “Dewisodd fy chwaer Cheryl yr Apêl i dderbyn elw’r rafflau a dyma ein ffordd ni o ddiolch i staff yr uned am y gofal gwych y mae hi wedi’i dderbyn.

“Am nifer o resymau, rydym wedi penderfynu cau’r caffi ar ôl pum mlynedd mewn busnes, felly rydym yn falch ein bod wedi gallu codi’r arian hwn at achos mor werth chweil cyn y cau.”

O’r chwith, yn y cyflwyniad siec mae goruchwyliwr caffi Gemma Moseley-Collins, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda Bridget Harpwood, a’r perchnogion Cheryl Webster ac Amanda Brydon.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i berchnogion a chwsmeriaid Mikey’s Café Bar am eu cefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu i’n helpu i gyrraedd ein targed.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle