Carnifal Aberaeron yn codi £5,500 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
153
Uchod: Yn y llun mae'r casglwr Graeme Moran gydag un o'r bwcedi elusen

Mae trefnwyr Carnifal Aberaeron wedi codi swm gwych o £5,500 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Cynhaliwyd y carnifal, a drefnir gan Bwyllgor Gwelliannau Tref Aberaeron, ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, 29 Awst.

Dywedodd ysgrifennydd y pwyllgor Rhodri Jones: “Bob blwyddyn mae gennym ni gasgliad bwced yn y carnifal i godi arian i gynnal y digwyddiad a phenderfynwyd eleni i’w roi i’r Apêl. “Roedd nifer fawr yn bresennol ar y diwrnod a llawer o wirfoddolwyr yn casglu, a chodwyd £5,500 i’r Apêl, ac rydym wrth ein bodd.

“Roedden ni’n teimlo bod yr Apêl am uned ddydd cemotherapi newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais yn un bwysig. Mae canser yn cyffwrdd â phob rhan o’n cymuned ac mae’n hanfodol cael cyfleusterau meddygol mor lleol â phosibl.” Mae Carnifal Aberaeron yn un o’r carnifalau hynaf a mwyaf mawreddog yng Nghymru, yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn y rhyfel. Mae’n denu ymwelwyr o bell ac agos ac yn cynnwys gorymdaith gyda fflotiau ac unigolion mewn gwisg ffansi.

Yn y llun mae’r casglwr Graeme Moran gydag un o’r bwcedi elusen.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i Bwyllgor Gwelliannau Tref Aberaeron am eu cefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu i’n helpu i gyrraedd ein targed.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle