Mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi cynnal derbyniad Qatari gyda chynhyrchwyr blaenllaw, wrth i’r paratoadau ddechrau ar gyfer Cymru yn cymryd y rhan yng Nghwpan y Byd Qatar 2022 ymhen pedair wythnos.
Fe’i cynhaliwyd yn Llysgenhadaeth Prydain yn Doha a’i gyflwyno gan Lysgennad EF i Qatar, Jon Wilks CMG, roedd y cinio a’r arddangosfa o fwyd a diod o Gymru yn cychwyn cyfres o ddigwyddiadau proffil uchel wrth i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd i helpu i godi ei broffil ar draws y byd.
Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau a gynhelir yng Nghymru, Qatar ac Unol Daleithiau America, gyda Chronfa Gymorth Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru yn darparu £1.8m o gyllid i helpu i rannu diwylliant, celfyddydau a threftadaeth Cymru ar draws y byd mewn ymgais i hybu ei heconomi a’i phroffil.
![](https://xvctqx.infiniteuploads.cloud/2022/10/DSC_7695-2-min-1024x683.jpg)
Mae marchnad Qatari yn parhau i fod yn bwysig i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, gan ei bod yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd ac yn mewnforio’r mwyafrif helaeth o’i gofynion bwyd. Yn bresennol yn y derbyniad oedd rhai o ffigyrau blaenllaw bwyd a diod Qatari, gan gynnwys cynrychiolwyr masnach dylanwadol o westai, archfarchnadoedd a bwytai, gyda’r nod o ddyfnhau cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.
Roedd y ddirprwyaeth o Gymru yn cynnwys cynhyrchwyr sy’n allforio i’r rhanbarth ar hyn o bryd ac yn awyddus i gryfhau cysylltiadau masnach ymhellach. Roedd y rhain yn cynnwys Hybu Cig Cymru yn arddangos Cig Oen Cymru PGI, Calon Wen, Tŷ Nant, Penderyn, Rachel’s Organic a diodydd Stillers.
Hefyd yn bresennol o’r ddirprwyaeth oedd y cogydd enwog o Gymru, Chris Roberts, a fu’n rhoi gwledd wych o farbeciw Cig Oen Cymru i westeion. Yn ei gynorthwyo o Goleg Caerdydd a’r Fro roedd Tony Awino, cogydd a darlithydd lletygarwch, a’r cogydd iau Joshua Campbell-Taylor, a oedd yn arddangos y cyfleoedd a gynigir gan yrfa mewn lletygarwch a’r diwydiant bwyd ehangach.
Daw’r digwyddiad wrth i ffigurau dros yr haf ddangos bod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn 2021, sef £640m. Yn tanlinellu’r ymdrechion i dyfu’r diwydiant allforio ymhellach mae’r ffaith bod gan Gymru hefyd y cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth allforion bwyd a diod allan o bedair gwlad y DU rhwng 2020 a 2021, gan godi £89 miliwn sy’n cynrychioli twf o 16.1%.
![](https://xvctqx.infiniteuploads.cloud/2022/10/DSC_7959-min-1024x683.jpg)
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:
“Rydym i gyd yn gyffrous iawn i weld Cymru yng Nghwpan y Byd, am y tro cyntaf ers 64 mlynedd. Mae hefyd yn gyfle gwych i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i brynwyr allweddol yn Qatar.
“Mae ein diwydiant bwyd a diod llewyrchus yn stori o lwyddiant sy’n perthyn i lwyfan y byd.
“Roedd y cynhyrchion a’r busnesau a gafodd sylw yn y digwyddiad yn cynnig cipolwg o’r ansawdd sydd gennym i’w gynnig. Mae’r ffaith bod allforion bwyd a diod o Gymru yn parhau i dyfu i’r lefelau uchaf erioed yn tanlinellu ansawdd ein cynhyrchwyr a sut mae’r diwydiant yn gweithio’n galed i gryfhau cysylltiadau â phartneriaid masnachu ledled y byd.”
Un o bartneriaid arweiniol y ddirprwyaeth oedd Hybu Cig Cymru (HCC), sy’n awyddus i dyfu eu cysylltiadau masnach yn y rhanbarth ymhellach.
Mae Qatar, ynghyd â chenhedloedd eraill yn y Dwyrain Canol, wedi bod yn farchnad lewyrchus yn ddiweddar, gydag allforion yn cynyddu a sawl bwyty a manwerthwr o safon uchel yn stocio Cig Oen Cymru. Tyfodd gwerth allforion Cig Oen Cymru i Qatar bum gwaith yn ystod y ddwy flynedd yn arwain at 2020 a bu cynnydd o 367% yng ngwerth ariannol allforion i Qatar hyd yn hyn yn 2022 o gymharu â’r un cyfnod yn 2021.
Mae’r digwyddiad yn rhan o ymgyrch hyrwyddo ehangach, a gefnogir gan grant o £97,000 gan Lywodraeth Cymru, i godi proffil Cig Oen Cymru yn Qatar ac Unol Daleithiau America, sy’n farchnad allweddol newydd yn dilyn codi gwaharddiad allforio yn gynharach eleni.
![](https://xvctqx.infiniteuploads.cloud/2022/10/DSC_7825-min-1024x683.jpg)
Yn ôl HCC, mae datblygu’r farchnad yn Qatar a’r rhanbarth ehangach yn flaenoriaeth strategol. Dywedodd Jon Parker, Pennaeth Cadwyni Cyflenwi yn HCC,
“Mae’r Dwyrain Canol yn farchnad o flaenoriaeth uchel i Gig Oen Cymru, ochr yn ochr â chynnal ein marchnadoedd gwerthfawr ym Mhrydain ac Ewrop, a datblygu masnach gydag Asia a Gogledd America.
“Mae cig oen yn boblogaidd ar draws y rhanbarth, ac oherwydd yr hinsawdd mae’n rhaid i wledydd y Dwyrain Canol fewnforio llawer o’u bwyd ffres. Mae’r sector arlwyo a lletygarwch yn cynnig marchnad bwysig ar gyfer cig o ansawdd uchel, sydd â stori gref o gynaliadwyedd, ac mae’n faes y mae gan Gymru stori arbennig o dda i’w hadrodd.
“Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru wrth drefnu’r digwyddiad yn Qatar, ynghyd â’r cyllid ehangach o amgylch Cwpan y Byd, sy’n caniatáu i ni godi proffil Cig Oen Cymru ymhellach a helpu i sicrhau marchnadoedd a siopau newydd ar gyfer un o brif gynhyrchion Cymru.
Ymhlith y cynhyrchwyr eraill yn y digwyddiad roedd Distyllfa Penderyn, sy’n cynhyrchu wisgi brag a gwirodydd arobryn wrth odre Bannau Brycheiniog. Dywedodd Stephen Davies, Prif Weithredwr Distyllfa Penderyn,
“Mae Penderyn wedi ennill enw da yn fyd-eang yn gyflym am ein hamrywiaeth o wisgi ac rydym yn gwmni sy’n edrych tuag allan ac sy’n awyddus i agor cyfleoedd mewn marchnadoedd newydd. Mae’r ffaith bod Penderyn bellach ar gael mewn dros 50 o wledydd yn dyst i hyn.
“Roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad yn Doha, ac rydym yn gwbl gefnogol i nodau Llywodraeth Cymru i ehangu gorwelion diwydiant bwyd a diod Cymru a manteisio hefyd ar y cyfleoedd a gynigir gan ymddangosiad Cymru yng Nghwpan Pêl-droed y Byd.”
Yn ogystal i Penderyn, roedd yna ddetholiad o ddiodydd Stillers o Ddistyllfa Old Coach House Distillery. Wedi’i sefydlu yn 2019 gyda’r awydd i greu diodydd botanegol cwbl naturiol, di-alcohol wedi’u distyllu, dywedodd y Cyfarwyddwr Cameron Mackay,
“Mae ein cynhyrchion yn ddiodydd soffistigedig y gellir eu mwynhau fel dewis arall gwych i beidio ag yfed alcohol, ac mae ganddynt nifer o fanteision iechyd hefyd.
“Rydym yn teimlo bod ein cynnyrch di-alcohol yn gweddu’n berffaith i farchnad y Dwyrain Canol, ac rydym yn ddiolchgar am y cyfle a roddwyd i ni gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i agor marchnadoedd newydd fel y rhain.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle