Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu deildy wedi’i phaentio ar gyfer yr ardd yng nghanolfan iechyd meddwl gymunedol Gorwelion yn Aberystwyth, diolch i roddion coffa.
Mae Gorwelion yn darparu cymorth i oedolion sy’n byw yn y gymuned ag anghenion iechyd meddwl.
Yn dilyn marwolaeth drist defnyddiwr gwasanaeth Gorwelion, rhoddwyd rhoddion gan deulu a ffrindiau er mwyn prynu deildy er cof amdani.
Dywedodd Liz Baggott, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol yn y ganolfan: “Mae ein grŵp garddio wedi bod yn trawsnewid ein hardal awyr agored gyda chefnogaeth Mind
Aberystwyth ac mae rhodd y teulu wedi ein galluogi i gael deildy i wneud y lle yn fwy croesawgar a chyfforddus.
“Mae’r ardd yn lle diogel i bobl ymlacio a mwynhau’r awyr agored.”
Yn y llun (chwith) mae Liz yn eistedd yn y deildy gyda derbynnydd y ganolfan, Anne Hopkins.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle