Anrhegu ‘Coeden y Coed’ brenhinol i Weithdy DOVE, Banwen

0
213
Dove Tree

Mae Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mrs Louise Fleet wedi trosglwyddo gwaddol parhaus gofidiau amgylcheddol ei diweddar Fawrhydi y Frenhines Elizabeth ll i Weithdy Dove ym Manwen.

Ddydd Iau 27 Hydref, aeth yr Arglwydd Raglaw â choeden Ysgawen, a fu’n rhan wreiddiol o gerflun dramatig Coeden y Coed ym Mhalas Buckingham fu’n dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Cyflwynwyd y goeden i Weithdy Dove i gydnabod gwaith y sefydliad gyda’r gymuned leol, gwirfoddolwyr a phartneriaid.

Daeth Gweithdy DOVE i fodolaeth o ganlyniad i ymdrech gyfun gan drawstoriad o fenywod ym meysydd glo De Cymru i sicrhau na fyddai diwedd streic y glowyr yn 1984-85 yn golygu diwedd ar y cymunedau glofaol eu hunain.

Ym mis Medi 1987, agorodd Glenys Kinnock fangre wreiddiol DOVE ym Manwen. Mae Gweithdy DOVE a’r llyfrgell gysylltiedig wedi parhau i dyfu dros y blynyddoedd, gan gyflwyno cyrsiau newydd a pherthnasol wrth i’r oes newid, a newidiodd y Llyfrgell yn ei sgil hefyd.

Roedd rhoi’r Ysgawen i Dove yn rhan o brosiect Canopi Gwyrdd y Frenhines, sydd wedi anrhegu coed coffa arbennig o ‘Goeden y Coed’ i bobl sy’n eu haeddu ledled y DU.

Mynychwyd y digwyddiad gan Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Stephen Hunt a’r Cynghorydd Siân Harris, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd, Maer Castell-nedd y Cynghorydd Robert Wood ac AS Castell-nedd Christina Rees.

Yn ôl yr Arglwydd Raglaw Mrs Fleet: “Bydd y goeden hardd hon yn dod yn rhan o waddol byw i anrhydeddu’i Mawrhydi, gan ymuno â thros filiwn o goed a blannwyd eisoes ar draws y Deyrnas Unedig fel rhan o brosiect Canopi Gwyrdd y Frenhines.

“Cafodd ei meithrin a’i rhoi’n anrheg i Weithdy Dove i gydnabod y gwaith rhagorol y mae’r rhai sy’n gysylltiedig â Dove wedi’i wneud ar lawr gwlad dros y gymuned ar hyd y blynyddoedd fel elusen a menter gymdeithasol, hwb cymunedol a ddefnyddir yn fawr iawn ym Manwen a’r ardaloedd cyfagos, sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer addysg i oedolion a chymaint mwy.”

Meddai’r Cynghorydd Hunt: “Oherwydd ei holl waith caled dros y gymuned hon a’r cymunedau cyfagos ar hyd y blynyddoedd, mae Gweithdy Dove yn llawn haeddu’r rhodd werthfawr hon.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle