OFFERYN ‘MESUR I REOLI’ NEWYDD YN HELPU CYNHYRCHWYR MOCH I FEINCNODI EU BUSNESAU

0
199

Gall cynhyrchwyr moch yng Nghymru bellach feincnodi perfformiad eu busnes gan ddefnyddio rhaglen gyfrifiadurol bwrpasol am ddim a ddatblygwyd gan Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio.

Wedi’i chynllunio ar gyfer pob math o fentrau moch, y rhaglen ddwyieithog ‘Mesur i Reoli’ yw’r gyntaf o’i bath ac mae’n galluogi cynhyrchwyr moch – ar raddfa fach neu fawr – i ddadansoddi perfformiad eu busnes.

Mae ‘Mesur i Reoli’ yn galluogi cynhyrchwyr yng Nghymru i feincnodi eu busnes drwy gofnodi eu mewnbynnau, eu hallbynnau, a pherfformiad y genfaint dros gyfnod penodol.

Orange Piglet

Mae’r rhaglen gyfrifiadurol hawdd ei defnyddio yn dadansoddi’r data yn seiliedig ar dargedau a dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) megis niferoedd stoc a phrisiad, pryniannau a gwerthiannau, data perfformiad a chostau rhedeg.

Ar gyfer cenfeiniau bridio, mae’r DPA yn cynnwys cyfraddau porchella, diwrnodau anghynhyrchiol, neu nifer y perchyll sy’n cael eu geni, eu diddyfnu a’u gwerthu. Er bod dadansoddiad yr adran besgi yn cynnwys cynnydd pwysau byw dyddiol, diwrnodau tan orffen pesgi cyfartalog a chymhareb trosi porthiant.

Gellir defnyddio’r data i ddarparu cymhariaeth flwyddyn ar ôl blwyddyn, neu i gymharu’n ddienw â mentrau moch eraill, er mwyn helpu i nodi cryfderau a gwendidau busnes.

Dywedodd Swyddog Datblygu Menter Moch Cymru, Lauren Smith, “Mae Mesur i Reoli yn arf defnyddiol ar gyfer cadw ar ben y gost o gadw moch a’r allbwn ar y diwedd. Mae cadw ar ben costau yn hanfodol i redeg menter foch broffidiol, yn enwedig ar adeg pan fo costau mewnbwn yn uchel, oherwydd os na allwch ei fesur, ni allwch ei reoli.”

Hefyd, mae Menter Moch Cymru wedi dylunio llyfr casglu data i helpu cynhyrchwyr i fewnbynnu’r data i’r rhaglen ‘Mesur i Reoli’. Mae cynllun y llyfr yn adlewyrchu tudalennau’r rhaglen, gan wneud trosglwyddo data yn gyflym ac yn hawdd.

Mae’r cynhyrchydd moch o Gaerdydd, Ethan Williams, wedi bod yn defnyddio rhaglen ar-lein ‘Mesur i Reoli’ Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio. Dywed fod y rhaglen a’r llyfryn wedi bod yn amhrisiadwy o ran ei helpu i reoli’r data sy’n gysylltiedig â’i fusnes moch.

Dywedodd Ethan, “Roeddwn wedi bod yn rhoi’r holl rifau i mewn i Excel, ond gyda ‘Mesur i Reoli’, mae popeth yn llawer cliriach ac amlwg – fel faint o bwysau mae’r stoc wedi’i ennill. Mae wedi gwneud popeth yn llawer mwy effeithlon.”

Dywedodd Lauren Smith, “Gall unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth neu gyngor ar sut i ddefnyddio ‘Mesur i Reoli’ gysylltu â Menter Moch Cymru (01970 636285) neu Cyswllt Ffermio (08456 000813). Mae yna hefyd fideo Youtube o sut i gadw cofnodion https://www.youtube.com/watch?v=B1iSNN93mi0

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle