Heddiw mae adroddiad newydd gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi galw am strategaeth a thargedau newydd i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru – rhywbeth y mae Plaid Cymru ac ymgyrchwyr gwrth-dlodi wedi bod yn galw amdano ers tro.
Mae hefyd yn nodi “nad yw’r un Cyngor wedi creu un porth i mewn i wasanaethau. O ganlyniad mae’n rhaid i bobl gwblhau ffurflenni cais lluosog sy’n aml yn cofnodi’r un wybodaeth.”
Cyflwynodd Sioned Williams AS, sy’n Llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, gynnig ar gyfer newid y gyfraith ar y mater hwn yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Cafodd y cynnig ei basio gyda chefnogaeth drawsbleidiol, er na phleidleisiodd unrhyw aelod o Lywodraeth Cymru o’i blaid.
Dywedodd Sioned Williams AS:
“Mae’r diffygion, y gwahaniaethau ac yn ystod y degawd diwethaf o reolaeth y Torïaid yn San Steffan, y creulondeb llwyr sy’n nodweddu system Les y DU, wedi achosi caledi i ddegau o filoedd o bobl yng Nghymru ac wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cael ei gorfodi i gamu i mewn i gefnogi teuluoedd incwm isel lle mae San Steffan wedi methu Cymru.
“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro dros ddatganoli gweinyddiaeth dros Les i Gymru ac rydym yn falch o fod yn symud ymlaen ar hyn drwy ein Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Ond wrth i ni aros am gynnydd ar yr uchelgais hwnnw, mae’r gefnogaeth sydd ar gael o goffrau Cymru yn gwbl briodol wedi bod yn lluosi’n gyflym ac felly’n esblygu’n glytwaith o daliadau sy’n cael eu darparu’n bennaf, ond nid yn unig gan Awdurdodau Lleol. Mae’r taliadau weithiau’n seiliedig ar brawf modd ac weithiau’n gysylltiedig â rhai budd-daliadau penodol, gydag amodau cymhwysedd yn amrywio, o ran ffurf a natur a dulliau ymgeisio sydd ar wahân yn bennaf ac yn aml yn gymhleth.
“Roeddwn yn falch iawn bod fy nghynnig wedi’i basio gan y Senedd yr wythnos diwethaf ac rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i gynyddu’r nifer o bobl gymwys sy’n derbyn cymorth gan fudd-daliadau Cymreig drwy ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a chysoni’r dull o wneud cais am gymorth o’r fath, yn enwedig o ystyried argymhellion adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae’n hollbwysig bod pob ceiniog o gymorth sydd ar gael yng Nghymru yn cyrraedd pocedi’r rhai sydd ei angen mor rhwydd a chyflym â phosibl.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle