Dyrchafwch eich bywyd bob dydd yr Wythnos Therapi Galwedigaethol hon

0
194

Mae Wythnos Therapi Galwedigaethol eleni (7-13 Tachwedd) yn gweld lansiad yr ymgyrch ‘Lift up your everyday’ ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Nod yr ymgyrch, a arweinir gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch sut y gall therapi galwedigaethol helpu pobl i wneud newidiadau bach a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau. 

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n bwysig iawn bod pobl yn cael eu grymuso i helpu eu hunain a bod ein therapyddion galwedigaethol yn gallu darparu cyngor i alluogi pobl i barhau i wneud yr hyn maen nhw’n caru ac angen ei wneud. Mae hyn yn ymwneud â phobl yn cymryd camau bach a allai wneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau bob dydd – gartref, yn y gwaith, yn yr ysgol ac wrth chwarae.”

Dywedodd Claire Sims, Pennaeth Therapi Galwedigaethol: “I nodi Wythnos Therapi Galwedigaethol eleni, mae ein staff therapi galwedigaethol yn rhannu rhai haciau bywyd syml i helpu pobl ar draws ein cymunedau i wneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau. Rydyn ni eisiau cefnogi pobl i wneud y pethau maen nhw eisiau neu angen eu gwneud, i oresgyn heriau, ac i allu cyflawni tasgau neu weithgareddau bob dydd.”

Anogir pawb i ddechrau meddwl pa haciau bywyd syml y gallwch eu gwneud nawr i wneud newidiadau yn eich bywyd a fydd o fudd i chi. Er enghraifft:

  • Cymerwch seibiant – Pan fydd sefyllfaoedd gwaith / bywyd yn caniatáu, cymerwch seibiant byr o’ch sgrin ddigidol (cyfrifiadur, ffôn symudol, teledu) a rhwng cyfarfodydd, trwy symud o gwmpas a chael rhywfaint o awyr iach yn yr awyr agored.
  • Cwsg – Gall cwsg gwael gael effaith negyddol ar ba mor dda yr ydym yn gweithredu ac yn ymgysylltu â’n gweithgareddau dewisol trwy gydol y dydd. Edrychwch ar eich arferion cysgu ac ymarferwch hylendid cysgu da i wella ansawdd eich cwsg. Mae rhagor o gyngor ar gael yma: GIG 111 Cymru – Gwyddoniadur : Anhunedd (wales.nhs.uk)
  • Gall codymau ddigwydd i chi neu rywun rydych yn gofalu amdano ac maent yn achos cyffredin o anaf. Gall colli hyder ar ôl cwympo atal pobl rhag gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Nid yw cwympiadau yn anochel wrth i ni heneiddio a gellir eu hatal. Mae yna bethau syml y gallwch eu gwneud i atal cwympiadau a gwneud eich cartref yn fwy diogel i bawb. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: GIG 111 Cymru – Gwyddoniadur : Cwympiadau (wales.nhs.uk)  

Parhaodd Claire: “Nid yw llawer o bobl yn deall beth mae therapydd galwedigaethol yn ei wneud, felly mae’r wythnos hon yn gyfle gwych i ni godi ymwybyddiaeth o sut rydym yn helpu pobl. Rydym yn gwneud cymaint mwy na darparu offer i bobl; gallwn eich helpu i fyw eich bywyd yn llawnach eto. Mae hefyd yn yrfa hynod werth chweil.”

Mae therapyddion galwedigaethol (OTs) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu cyngor a chymorth arbenigol i oedolion a phlant ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gan gefnogi a galluogi pobl i fyw bywyd ystyrlon a phwrpasol. Mae’n ymwneud â gallu gwneud y pethau rydych chi eu hangen, eu heisiau ac yn gorfod eu gwneud. Gallai hynny olygu goresgyn heriau wrth ddysgu yn yr ysgol, mynd i’r gwaith, chwarae chwaraeon neu hyd yn oed golchi’r llestri.

Mae therapyddion galwedigaethol yn gweld y tu hwnt i ddiagnosis a chyfyngiadau. Maent yn canolbwyntio ar obeithion a dyheadau, gan helpu pobl i wneud addasiadau sy’n ymarferol, yn realistig ac yn bersonol iddynt, gan helpu pobl yn y pen draw i gyflawni’r datblygiadau arloesol sydd eu hangen arnynt i ddyrchafu eu bywyd bob dydd.

I gael rhagor o wybodaeth am eich gwasanaeth therapi galwedigaethol lleol ewch i Gwasanaethau therapi galwedigaethol – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) ac mae rhagor o wybodaeth am yr Wythnos Therapi Galwedigaethol eleni ar gael yma Royal College of Occupational Therapists – Championing occupational therapy (rcot.co.uk)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle