Llyfrau Profedigaeth i blant wedi eu prynu ar gyfer Ward Meurig, Ysbyty Bronglais

0
326
Uchod: Yn y llun gyda rhai o'r llyfrau mae Uwch Brif Nyrs y Ward Alaw Ciornei

Mae’r llyfrau’n helpu teuluoedd i gefnogi plant pan fydd diagnosis terfynol o ganser wedi bod.

Dywedodd Ellen Masters, Gweinyddwr Ward Meurig: “Drwy gael y llyfrau hyn ar y ward rydym yn gallu arwain a chefnogi plant a phobl ifanc sy’n delio â newyddion drwg a phrofedigaeth.

“Gall defnyddio straeon a gweithgareddau fod yn ffordd dda iawn o drafod materion gyda

phlentyn sydd wedi cael profedigaeth, gan ei helpu i archwilio teimladau ac emosiynau yn ymwneud â cholled.

“Mae rhieni hefyd yn gwerthfawrogi cael rhywbeth y gallant ei ddarllen i blant sy’n delio’n sensitif â’r materion.”

Yn y llun gyda rhai o’r llyfrau mae Uwch Brif Nyrs y Ward Alaw Ciornei.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle