Agor ceisiadau am le yn ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Nghastell-nedd

0
790
Exterior photo of the new Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles

Mae hi bellach yn bosib gwneud cais i gael lle yn y dosbarth meithrin, i ddechrau ym mis Ionawr 2023, a’r derbyn, i ddechrau ym mis Medi 2023, mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yng Nghastell-nedd.

Lleolir Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles, sydd wedi cael ei hadnewyddu’n llwyr, yn hen adeilad Ysgol Gynradd Mynachlog Nedd yn Nheras Sant Ioan, Mynachlog Nedd.

Bydd lleoedd yn agor gam wrth gam, gyda disgyblion meithrin yn dechrau yn yr ysgol gyntaf ym mis Ionawr 2023. Bydd yr ysgol yn cyrraedd ei phwynt o fod yn llawn erbyn Medi 2029.

Pan fydd wedi’i sefydlu’n llwyr, bydd gan yr ysgol le ar gyfer hyd at 210 o ddisgyblion cynradd llawn amser a 45 o blant oedran meithrin rhan amser. Bydd hefyd yn cynnig darpariaeth gofal plant ar y safle i roi mwy o ddewis a hyblygrwydd i deuluoedd yn yr ardal, yn ogystal â helpu i ddatblygu sgiliau siarad a gwrando Cymraeg i blant oedran cyn ysgol.

Cafodd yr ysgol newydd ei datblygu fel rhan o Gynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Bydd yn darparu amgylchedd dysgu cyffrous ac ysgogol i ddisgyblion, gan gofleidio egwyddorion y cwricwlwm newydd i Gymru, gyda’r nod o hybu’r iaith Gymraeg, llesiant, cydraddoldeb a chynhwysiant.

Yn ôl y Cynghorydd Nia Jenkins, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant: “Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn adlewyrchu ein gweledigaeth ar gyfer hybu a sicrhau fod gan ddisgyblion Castell-nedd Port Talbot fynediad i addysg Gymraeg. Ein cred yw y dylai pob plentyn elwa o’r cyfle i ddysgu, gwerthfawrogi a rhoi ffurf ar eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles yn darparu cefnogaeth a darpariaeth o safon uchel a fydd yn galluogi pob dysgwr, eu teuluoedd a’r gymuned yn ehangach, i elwa o gael mynediad i addysgu a phrofiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.”

I wneud cais ar gyfer lle i blant oedran meithrin ddechrau yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles ym mis Ionawr 2023, cysylltwch os gwelwch yn dda â Derbyniadau Ysgol ar admissions@npt.gov.uk, ac ar gyfer lle i blant oedran derbyn fydd yn dechrau ym mis Medi 2023 yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles, ewch i www.npt.gov.uk/6573


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle