Arian ar gael i daclo tlodi bwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot

0
842
Photo by Aaron Doucett on Unsplash

Gall grwpiau a sefydliadau cymunedol sy’n gweithredu â’r nod o gefnogi pobl sy’n cael trafferth dygymod â thlodi bwyd wneud ceisiadau ar lein o hyn ymlaen.

Agorwyd y Grant Tlodi Bwyd i sefydliadau, all wneud cais am gyllid hyd at £3,500.   

Gallai gwariant sy’n addas i gael ei gyllido gynnwys pethau fel prynu bwyd ychwanegol oherwydd mwy o alw, costau hyfforddi gwirfoddolwyr, costau dechrau ar gyfer datblygu clybiau cinio, caffis cymunedol a gwasanaethau rhoi a derbyn cyngor ym maes cefnogaeth i dlodi bwyd.

Yn ôl y Cynghorydd Simon Knoyle, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Hoffwn bwyso ar unrhyw sefydliad sydd eisiau sefydlu gwasanaeth cefnogi i bobl sy’n wynebu tlodi bwyd, neu sydd eisoes yn gwneud hynny, ond sydd angen mwy o arian, i ddysgu mwy neu wneud cais ar lein. 

“Mae’r argyfwng costau byw yn peri fod pobl mewn perygl o fethu â phrynu digon o fwyd i’w teuluoedd, a thrwy weithio law yn llaw â grwpiau a phartneriaid cefnogi lleol yn ein cymunedau, ein gobaith yw gallu helpu i leddfu’r baich ar bobl sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd.”

Does dim dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau, ond dyfernir arian o’r gronfa ar sail y cyntaf i’r felin. Rhaid gwario pob ceiniog a roddir erbyn 31 Mawrth 2023.

I gael mwy o fanylion am feini prawf cael arian, ac i lenwi ffurflen gais ar lein, ewch i www.npt.gov.uk/foodpovertygrant. Os hoffech drafod gwneud cais, anfonwch neges e-bost at communityfoodconnections@npt.gov.uk neu ffoniwch 07890 035912 / 01639 686057.

Cafodd yr arian hwn ei ddyfarnu i bob cyngor yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi nifer uwch o bobl sy’n wynebu tlodi bwyd. Ei nod yw cryfhau mentrau bwyd cymunedol, ac mae’n canolbwyntio ar weithgareddau a allai helpu i fynd i’r afael ag achosion craidd tlodi bwyd. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle