Cyngerdd ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
204
Megan Jones concert

Mae gŵyl gerddorol ar y gweill gan Megan Jones Roberts sy’n trefnu cyngerdd i godi arian at Apêl Cemo Bronglais.

Mae tocynnau ar gael o hyd ar gyfer y digwyddiad a fydd yn cynnwys y diddanwr Clive

Edwards a’r grŵp canu gwrywaidd Parti Camddwr, ac a gynhelir yng Nghlwb Pêl-droed Aberystwyth nos Sadwrn, 26 Tachwedd.

Parti Camddwr

Dywedodd Megan: “Mae Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais yn agos at fy nghalon fy hun ond gofynnwyd i mi hefyd a allwn drefnu cyngerdd gan Lynne Griffiths, y cafodd ei chwaer Monica Davies driniaeth yn dilyn diagnosis o ganser. Buom yn siarad amdano ddwy flynedd yn ôl, ond dim ond nawr y mae’n digwydd oherwydd COVID-19.

“Mae Clive yn ganwr, arweinydd a digrifwr adnabyddus a bydd yn lansio ei gryno ddisg newydd ar y noson. Mae Parti Camddwr, dan arweiniad Efan Williams, yn grŵp canu o Bronant a Lledrod gyda rhaglen amrywiol. Bydd raffl ar y noson hefyd.” “Bydd uned ddydd cemotherapi newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr yn yr ardal hon ac rwy’n hapus i wneud yr hyn a allaf i helpu,” ychwanegodd Megan, sy’n byw ym Mhenparcau, Aberystwyth ac sydd wedi codi swm anhygoel o £173,000 ar gyfer elusennau lleol, gan gynnwys yr uned cemotherapi, dros y blynyddoedd.

Clive Edwards

I gael tocynnau ar gyfer y cyngerdd, cysylltwch â Megan ar 01970 612768.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar i Megan am ei chefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi rhoi.

“Rydym yn falch iawn o adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle