SUL Y COFIO: Neges Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru

0
237
Adam Price AM

Yn ei neges swyddogol ar Sul y Cofio 2022, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS,

Heddiw, ar Sul y Cofio, cofiwn ac anrhydeddwn y rhai sydd wedi marw mewn rhyfeloedd.

“Rhaid rhoi sylw hefyd i’r rhai sy’n parhau i ddioddef o ganlyniad i wrthdaro ledled y byd. O’r rhai sy’n cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi o ganlyniad i wrthdaro dramor, i’r cyn-filwyr hynny yn agosach at adref sy’n cael trafferth gyda’r argyfwng costau byw presennol – yn rhy aml teimlir effeithiau rhyfel ymhell ar ôl i’r gwrthdaro ddod i ben.

“Rhaid i ni sicrhau bod cyn-filwyr yn cael gofal digonol, a’u bod yn gallu fforddio byw yn y byd maen nhw wedi ymdrechu drosto. Yn y cyfamser, rhaid inni barhau i weithio tuag at ddyfodol o heddwch a ffyniant gan addo na fydd angen i genedlaethau’r dyfodol fyth wynebu erchyllterau rhyfel.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle