Atyniadau Awdurdod y Parc yn cynnig llefydd parcio, mynediad a gweithgareddau am ddim i hyrwyddo Gaeaf Llawn Lles

0
245
Caption: Carew Castle, Castell Henllys and Oriel y Parc are all offering free parking, entry and activities as part of the Pembrokeshire Coast National Park Authority's Winter of Well-being.

Bydd tri atyniad poblogaidd yn cynnig digwyddiadau a phrofiadau am ddim y gaeaf hwn, fel rhan o ymdrechion Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i dynnu sylw at weithgareddau rhad yn ystod yr argyfwng costau byw.

Bydd Castell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn darparu cyfuniad o ddigwyddiadau am ddim, parcio am ddim, mynediad am ddim a mannau cynnes i bobl eu mwynhau wrth i’r diwrnodau fynd yn fyrrach ac wrth i’r biliau fynd yn fwy.

Glow Carew

Dywedodd y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae’r gyfres hon o weithgareddau a digwyddiadau am ddim yn un o restr o gamau gweithredu y mae’r Awdurdod yn eu cymryd fel rhan o’i nod i hyrwyddo iechyd a lles da mewn cymunedau lleol, y gaeaf hwn a thu hwnt.

“Rydyn ni’n tynnu sylw at y cyfleoedd hyn er mwyn i unrhyw un sy’n chwilio am rywfaint o ryngweithio cymdeithasol neu reswm i fynd allan o’r tŷ allu gwneud hynny yn agos i adref heb orfod gwario llawer o arian. 

“Yn ogystal â’r gweithgareddau sydd ar gael yn yr atyniadau hyn, mae’r Parc Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cerdded arfordirol a mewndirol a all helpu i wella iechyd corfforol a meddyliol, ac mae’r cyfnod codi tâl wedi dod i ben yn 14 o feysydd parcio Awdurdod y Parc.”

Yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, bydd sesiynau crefft am ddim i blant rhwng 10am a 4pm bob dydd Sadwrn a dydd Sul o 12 Tachwedd ymlaen, ac eithrio 3 Rhagfyr.

Ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr, cynhelir y Farchnad Nadolig flynyddol, sy’n rhad ac am ddim, rhwng 10am a 3pm.

Nod yr arddangosfa barhaus Ar Eich Stepen Drws, sydd ar agor bob dydd rhwng 10am-4pm, yw ysbrydoli pawb i archwilio’r natur, y ddaeareg a’r archaeoleg sy’n bodoli o’n cwmpas, a mwynhau’r manteision iechyd a lles y gall y rhain eu cynnig.

I gael manylion llawn ac oriau agor, ewch i www.orielyparc.com.

Yng Nghastell Caeriw, bydd mynediad am ddim i Tywyn, goleuadau Nadolig newydd, a fydd yn cynnwys arddangosfeydd golau hudolus a lliwgar, a choeden Nadolig hardd gan greu gardd hudolus i’r teulu cyfan. Bydd wyneb Dwyreiniol y Castell hefyd wedi’i oleuo rhywfaint er mwyn cael effaith drawiadol.

Caffi’r Caban Castell Henllys

Gall teuluoedd hefyd gymryd rhan mewn Llwybr Corachod am ddim o amgylch Gerddi’r Castell. Bydd Siop y Castell ar agor ar gyfer siopa Nadolig yn hwyr yn y nos a bydd Ystafell De Nest yn gweini eich holl ffefrynnau Nadoligaidd.

Bydd Tywyn yn cael ei arddangos o ddydd Iau i ddydd Sul rhwng 17 Tachwedd a 22 Rhagfyr. Yr oriau agor fydd 4.30pm-8pm ar ddydd Iau a dydd Gwener a 3pm-8pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Fel bob amser, bydd y ddau faes parcio yng Nghastell Caeriw am ddim a gellir defnyddio’r daith gylchol sy’n filltir o hyd o amgylch Llyn y Felin am ddim hefyd. Gan ei fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn a phramiau, mae’n lle gwych i bobl o bob gallu gadw’n heini. 

I gael manylion llawn ac oriau agor, ewch i www.castellcaeriw.com.

Bydd Pentref Oes Haearn Castell Henllys yn cynnal Sesiynau Crefft Naturiol Nadoligaidd am ddim ar y cyd â’r caffi cynnes a chlud ar y safle – Caffi’r Caban.

Bydd y sesiynau galw heibio wythnosol hyn yn cynnwys y cyfle i wneud canhwyllau cwyr gwenyn, torchau coed helyg bach ac addurniadau ffelt, yn ogystal â chardiau Nadolig a thagiau anrhegion. Cynhelir y sesiynau galw heibio rhwng 10am a 3.30pm ar 19 a 26 Tachwedd, yn ogystal â 3, 10 a 17 Rhagfyr.

Bydd diodydd poeth, bwyd a chacennau hefyd ar gael i’w prynu yng Nghaffi’r Caban yn ystod yr amseroedd hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am hyn a digwyddiadau eraill, ewch i www.castellhenllys.com.

I ddod o hyd i dros 200 o lwybrau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda mapiau y gellir eu llwytho i lawr, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/teithiau-gwe.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle