Rhowch eich troed gorau ymlaen am hwyl yr wyl gyda St John Ambulance Cymru

0
238

Mae St John Ambulance Cymru yn edrych ymlaen at ddathlu tymor y Nadolig drwy gynnal ein Ras Hwyl yr Ŵyl i’n helpu i barhau â’n hymrwymiad i ddarparu cymorth cyntaf i unrhyw un, unrhyw bryd, unrhyw le.

Cynhelir Ras Hwyl yr Ŵyl o 10:30am ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr ym Mharc y Rhath, Caerdydd, ar hyd llwybr sy’n addas i bob oed a gallu. Anogir cyfranogwyr i wisgo gwisg ffansi i gerdded, loncian neu redeg dwy lap o’r parc prydferth. Bydd gwobrau ar y diwrnod am y gwisgoedd gorau i blant ac oedolion.

Mae cofrestru’n costio £7.50 i oedolion, a £5 i blant gyda chyfradd ostyngol o £20 i grwpiau teulu sy’n cynnwys dau oedolyn a dau blentyn. Mae plant dan 3 yn mynd am ddim, a rhaid i bob cyfranogwr o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael het Siôn Corn am ddim i fynd i ysbryd yr ŵyl.

Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol i godi arian ar gyfer St John Ambulance Cymru, sydd, fel prif elusen cymorth cyntaf Cymru, wedi ymrwymo i achub bywydau a gwella iechyd a lles cymunedau Cymru.

Boed yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau brys yn cynnig cymorth hanfodol, neu’n hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o achubwyr bywyd fel rhan o un o’n rhaglenni plant a phobl ifanc, mae eich cefnogaeth yn helpu St John Ambulance Cymru i barhau i wella iechyd a lles cymunedau yng Nghymru.

Dywedodd Alan Drury, Rheolwr Codi Arian Cymunedol a Digwyddiadau “Rydym yn gyffrous iawn i gael cynnal ein Ras Hwyl yr Ŵyl ym Mharc y Rhath eiconig Caerdydd, a byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o unigolion a theuluoedd â phosibl yn cofrestru i gymryd rhan fel ein bod gall ddod â blwyddyn anodd i lawer i ben gydag ychydig o hwyl yr ŵyl”

“Bydd yr holl arian a godir o’r digwyddiad yn ein helpu i barhau i ddarparu hyfforddiant a chymorth achub bywyd hanfodol mewn cymunedau ledled Cymru.

Gallai’r arian a godir fod y gwahaniaeth rhwng bywyd a gollwyd, neu fywyd a achubwyd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle