Eiliadau Mewn Amser: Cryfach Gyda’n Gilydd

0
374

I gyd-fynd ag Wythnos BYD-EANG Pontio’r Cenedlaethau 2022, lansiodd y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) mewn cydweithrediad â Grŵp Trawsbleidiol Cymru ar Bontio’r Cenedlaethau, gystadleuaeth i fynd i’r afael â rhagfarn ar sail oed a hyrwyddo manteision cysylltiadau a chyfeillgarwch a wneir ar draws gwahanol cenedlaethau yng Nghymru.

Noda ymchwil y gall gweithgareddau sy’n dod â gwahanol oedrannau ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon a difyr leihau arwahanrwydd cymdeithasol, gwella iechyd oedolion hŷn, a chynyddu hyder a dealltwriaeth plant o heneiddio a dementia (Llywodraeth Cymru, 2019; Houghton et al, 2022).

Cafodd cynigion y gystadleuaeth ffotograffau eu beirniadu gan banel o gynrychiolwyr o’r Grŵp Trawsbleidiol, Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn, y Grŵp Seneddol Ieuenctid a chynrychiolwyr CADR. Bydd Delyth Jewell AS yn cyhoeddi’r enillwyr yn nigwyddiad y Senedd, a fydd yn dod ag eiriolwyr blaenllaw dros ymarfer Pontio’r Cenedlaethau ynghyd. Trafoda’r digwyddiad manteision meithrin dealltwriaeth pontio’r cenedlaethau gan feithrin parch, tosturi a mynd i’r afael â rhagfarn ar sail oed. Caiff detholiad o’r delweddau eu harddangos yn y Senedd cyn iddyn nhw fynd ar daith o amgylch saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru er mwyn annog gwell dealltwriaeth o’r manteision i bob oed allu rhannu profiadau.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy’n cefnogi CADR: “Mae cysylltiadau rhwng cenedlaethau yn cynnig cyfoeth o fanteision i bawb,”

Ychwanegodd: “Mae dod â chenedlaethau ynghyd nid yn unig yn helpu i ddarparu atebion i faterion iechyd a chymdeithasol a brofir gan y boblogaeth sy’n heneiddio, mae hefyd yn symud y nodwydd tuag at gyd-ddealltwriaeth, rhannu gwybodaeth a chymdeithas decach lle mae pawb yn cael eu cynnwys.”

Dywedodd Delyth Jewell, MS Dwyrain De Cymru:

“Mae grwpiau iau a hŷn yn aml yn gallu teimlo eu bod wedi’u hymyleiddio a’u torri i ffwrdd oddi wrth benderfyniadau a wneir ar eu rhan, felly bydd y ddau grŵp ar eu hennill

os ydyn nhw’n dod at ei gilydd i siarad ag un llais. Rhaid i ni hefyd gofio bod y ddau grŵp wedi dioddef yn anghymesur yn ystod y pandemig, gan orfod delio ag unigrwydd a cholli cyswllt dynol hanfodol. Rwy’n credu bod perthnasoedd rhwng cenedlaethau yn cyfoethogi cymdeithas – maen nhw o bwys a dylid eu cryfhau, oherwydd mae gan bob un ohonom gymaint i’w ddysgu o brofiadau ein gilydd. Mae wedi bod yn brofiad calonogol a chyfoethog iawn i gadeirio Grŵp Undod Pontio Cenedlaethau’r Senedd, ac rwy’n falch iawn o gael cyhoeddi enillydd ein cystadleuaeth, a lansiwyd gennym er mwyn mynd i’r afael â rhagfarn ar sail oed, hybu dealltwriaeth rhwng gwahanol grwpiau oedran, ac sydd wedi arwain at greu ffotograffau hardd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle