Tîm Cartref yn Gyntaf yn ennill dwy wobr yng Ngwobrau GIG Cymru 

0
291

Mae tîm o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy’n helpu cleifion yn Sir Gaerfyrddin i dderbyn y gofal y maent ei angen mor agos â phosibl i’w cartrefi wedi cael eu cydnabod am eu gwaith arloesol yng Ngwobrau GIG Cymru 2022.

Gan gydweithio’n agos, mae Llesiant Delta, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno tîm amlddisgyblaeth i ddarparu gofal canolraddol, sef y gofal sydd ei angen arnoch ar ôl mynd i’r ysbyty neu i osgoi mynd i’r ysbyty.

Mae’r tîm yn gweithredu dull ‘cartref yn gyntaf’ o ran helpu pobl trwy gyfnod o adfer ac asesu. Yn ystod y 12 wythnos gyntaf o weithredu, helpodd y tîm 179 o bobl i ddychwelyd o’r ysbyty i’w cartrefi.

Yn sgil y gwaith llwyddiannus hwn o weithio ar y cyd, enillodd y tîm nid un ond dwy wobr – y wobr am Ddarparu Gwasanaethau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolion, a hefyd y wobr arbennig am Gyfraniad Eithriadol i Drawsnewid Iechyd a Gofal.

Mae tîm ymateb cyflym Llesiant Delta – sy’n dwyn yr enw annwyl ‘Y Fyddin Las’ – yn helpu cleifion i ddychwelyd o’r ysbyty i’w cartrefi drwy ddarparu cymorth gofal am gyfnod byr hyd nes y gellir dod o hyd i ddarparwyr ail-alluogi neu ddarparwyr hirdymor.

Gan weithio gyda swyddogion llesiant cymunedol Delta mewn ysbytai, gyda’i gilydd maent yn sicrhau y gellir rhyddhau cleifion cyn gynted â phosibl drwy ddarparu cymorth hanfodol i atal derbyniadau i’r ysbyty y gellir eu hosgoi, rhyddhau gwelyau mewn ysbytai, rhyddhau amser gwerthfawr staff, cynnal llif ac osgoi bod cleifion sy’n ffit yn feddygol yn parhau mewn ysbytai am gyfnod hirach.

Mae swyddogion yn cynnal asesiadau y tu mewn i ysbytai, gan helpu i ryddhau cleifion a darparu cysylltiad â chymorth cymunedol.

Mae’r tîm hefyd yn cynnig ymateb brys neu wasanaeth pontio i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd gofalu am eu hanwyliaid wrth iddynt aros am asesiadau pellach, cynnydd yn y ddarpariaeth gofal neu sydd angen cymorth gofal cymdeithasol ychwanegol yn y tymor byr. Os oes unrhyw bryderon ynghylch gofal yn methu, dirywiad sydyn, argyfyngau neu bryderon ynghylch lefel y gofal sydd ei angen, bydd y tîm Ymateb Cyflym 24/7 yn cael ei anfon i gynnig cymorth yn ystod y cyfnod hwn.

Mae hyn yn cefnogi’r unigolyn hwnnw i adennill ei gryfder a’i annibyniaeth ac i aros gartref cyhyd ag y bo modd er mwyn osgoi cael ei dderbyn i’r ysbyty.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, sef Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwyf wrth fy modd bod gwaith caled ac ymroddiad ein timau wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau’r GIG eleni.

“Trwy weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae ein gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud gwaith gwerthfawr o ran darparu gwasanaeth yn y tymor byr i adsefydlu cleifion yn eu cartrefi eu hunain i helpu iddynt ddychwelyd o’r ysbyty i’w cartrefi’n gyflymach ac osgoi derbyniadau diangen i ysbytai ac i gartrefi gofal.”

Cafodd Llesiant Delta ei sefydlu fel Cwmni Masnachu Awdurdodau Lleol yn 2018, a Chyngor Sir Caerfyrddin sy’n berchen arno. Mae’n defnyddio technoleg arloesol i ddarparu amrywiaeth o atebion yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gan helpu pobl hŷn ac agored i niwed i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi am gyfnod hirach.

Hefyd derbyniodd tîm fferylliaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Ysbyty Glangwili wobr am Gyfoethogi Llesiant, Gallu, ac Ymgysylltedd y Gweithlu Iechyd a Gofal, a derbyniodd prosiect partneriaeth rhwng y bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) yn Ysbyty Llwynhelyg y wobr Cydweithio i Ddarparu Gwasanaethau ar draws GIG Cymru.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym mor falch bod yr ymdrechion a’r ymroddiad anhygoel i ofal cleifion y mae ein staff yn eu dangos bob dydd wedi cael eu cydnabod yn y gwobrau cenedlaethol hyn. Mae’n ardderchog bod dwy o’n gwobrau wedi bod mewn cydnabyddiaeth o’r gwaith rydym yn ei wneud gyda phartneriaid, a bod y llall o dan arweiniad staff rheng flaen yn cael eu grymuso i wneud cymaint o wahaniaeth i’r cleifion ac i’r staff.”

Caiff Gwobrau GIG Cymru eu trefnu gan Gwelliant Cymru sef y gwasanaeth gwella cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fe’u lansiwyd yn 2008 i ddathlu 60 mlynedd ers sefydlu’r GIG ac i gydnabod a hybu’r arferion da ledled Cymru.

Noddwyd y gwobrau gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, C-Stem ac Armis, Core to Cloud, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i nhswalesawards.wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle