Fe wnaeth Robert Morgan oresgyn canser diolch i rodd mêr esgyrn a achubodd ei fywyd gan ddieithryn llwyr, Tom Heaven. Fe wnaeth y ddau gyfarfod am y tro cyntaf yn ddiweddar i lansio ymgyrch #AchubwrBywydCŵl Gwasanaeth Gwaed Cymru, gan annog mwy o bobl i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru i helpu cleifion eraill mewn angen.
Wedi diagnosis yn 2017 gyda syndrom myelodysplastig, canser y gwaed anghyffredin sy’n atal y corff rhag creu celloedd iach, cymerodd Robert ran mewn treial clinigol cyn cael gwybod mai ei unig siawns o oroesi oedd derbyn trawsblaniad mêr esgyrn.
“Roedd hi’n sioc clywed y gair mawr. Y C Fawr. Dirywiais yn gyflym, es i’n flinedig ac chefais drafferth gweithio.” Meddai Robert o Aberbargoed.
Yn ffodus, roedd Robert yn un o’r saith claf o bob deg claf ledled y DU a lwyddodd i ddod o hyd i roddwr mêr esgyrn addas ar ei gyfer, diolch i ddieithryn llwyr sef Tom, 30 oed, o Ddinas Powys.
Cyn cyfarfod â Tom am y tro cyntaf, rhannodd Robert: “Heb y rhoddwr hwnnw, heb Tom, fyddwn i ddim yn sefyll yma nawr. Mae mor anodd disgrifio meddwl ‘Mae gen i gyfle’.
“Doedd gen i ddim syniad beth i’w ddweud. Fy meddyliau cyntaf oedd a ddylwn i ysgwyd ei law neu ei gofleidio a’i gusanu.
Ymunodd Tom â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru tra’n rhoi gwaed gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru, ac mae’n gobeithio y bydd ei stori yn annog mwy o bobl ifanc 17 i 30 oed i ymuno.
Meddai Tom: “Pan wnes i roi gwaed am y tro cyntaf, roedd yn opsiwn ar ffurflen, ac fe wnes i ei dicio a rhoi samplau gan feddwl bod y siawns o gael eich paru yn brin iawn mae’n debyg. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ges i’r alwad i ddweud fy mod i o bosib yn cyfateb gyda chlaf.”
“Mae clywed ochr Robert o’r stori, gan wybod fy mod i wedi helpu i achub bywyd rhywun a gwybod eu bod nhw’n amlwg yn gallu treulio mwy o amser gyda’u teulu, yn beth da iawn, iawn.
Mae canserau gwaed yn atal mêr esgyrn y corff rhag cynhyrchu celloedd gwaed iach. Fel arfer, yr opsiwn triniaeth olaf i gleifion canser y gwaed yn dilyn radiotherapi a chemotherapi yw derbyn trawsblaniad mêr esgyrn.
Dywedodd Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, Emma Cook: “Mae’r siawns o gael eich dewis fel y gyfatebiaeth berffaith i glaf unrhyw le yn y byd yn hynod o brin, ond mae’r cyfle i ddod o hyd i gyfatebiaeth sy’n achub bywydau yn cynyddu wrth i fwy o roddwyr gofrestru.
Bob blwyddyn, mae dros 50,000 o gleifion ar draws y byd yn gobeithio dod o hyd i gyfatebiaeth mêr esgyrn addas gan roddwr sydd ddim yn perthyn.
Aeth Emma ymlaen i ddweud: “Fe allech chi fod yr un person a’r unig berson yn y byd a allai fod yn gyfatebiaeth – a dyna pam mae angen mwy o bobl arnom i gofrestru ar gyfer Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru a chynyddu siawns claf o oroesi.
“Mae’n haws yn awr nag erioed i ddod yn #AchubwrBywydCŵl gan fod ‘na gyfleoedd i gofrestru o adref drwy becyn swab neu drwy roi gwaed.”
Mae dwy ffordd y gall plant 17 i 30 oed ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, o’u cartref drwy ofyn am becyn swab wrth www.wbmdr.org.uk neu, fel Tom, ymuno drwy roi gwaed gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru.
Gorffennodd Robert drwy ddweud: “Oni bai am Tom, fyddwn i ddim yma. Byddwn i wedi colli allan ar gymaint, gan gynnwys cwrdd â fy gorwyres.
“Ystyriwch ymuno â’r Gofrestr os allwch chi. Mae wir yn gallu achub bywyd rhywun.” Os ydych rhwng 17 a 30 oed, gallwch gael gwybod sut y gallwch ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru drwy’r wefan www.wbs.wales/bmv neu ffonio 0800 252 266 heddiw.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle