Gweinidog yn rhoi sylw i fygythiad iechyd byd-eang wrth i wythnos ymwybyddiaeth gwrthficrobaidd ddechrau

0
367
Lesley Griffiths MS Minister for Rural Affairs

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi tynnu sylw at fygythiad byd-eang i iechyd pobl ac anifeiliaid wrth i wythnos ymwybyddiaeth fyd-eang ar y mater ddechrau heddiw.

Nodir Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthficrobaidd y Byd bob blwyddyn rhwng 18 – 24 Tachwedd a’r nod yw cynyddu ymwybyddiaeth fyd-eang o ymwrthedd gwrthficrobaidd, ac annog arferion gorau ymhlith y cyhoedd ac ymarferwyr, gan gynnwys milfeddygon.

Mae Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR) yn digwydd pan fydd bacteria, firysau, ffyngau a pharasitiaid yn newid dros amser ac nad ydynt bellach yn ymateb i feddyginiaethau, sy’n gwneud heintiau mewn pobl ac anifeiliaid yn anoddach i’w trin a chynyddu’r risg o ledaenu clefydau, salwch difrifol a marwolaeth.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yn un o’r 10 prif fygythiad iechyd cyhoeddus byd-eang sy’n wynebu dynoliaeth, ac mae anifeiliaid hefyd mewn perygl.

“Mae’n fater pwysig sy’n gofyn i wledydd ledled y byd weithredu i sicrhau bod gwrthfiotigau’n parhau i fod yn effeithiol.

“Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â bygythiad AMR mewn sawl ffordd gan gynnwys drwy ddarparu £4 miliwn i gefnogi prosiectau iechyd anifeiliaid.”

Mae Arwain DGC wedi derbyn cyllid i gefnogi ei ystod eang o weithgareddau i fynd i’r afael ag AMR yng Nghymru.

Mae un o’r prosiectau hyn ar fferm Hafod y Maidd ger Cerrigydrudion yng Nghonwy lle mae technoleg newydd yn helpu’r ffermwr Iwan Davies i ganfod a mynd i’r afael â chlefydau yn ei fuches sugno yn gynnar a lleihau’r angen am wrthfiotigau.

Mae’r dechnoleg yn gweithredu fel ‘system rhybudd cynnar’ yn ei rybuddio o haint posibl, pan fydd buwch yn wasod neu yng nghamau cyntaf bwrw llo ac unrhyw faterion iechyd eraill fel mastitis neu gloffni. Mae’r rhybudd hwn yn ei alluogi i weithredu cyn i’r clefyd ddatblygu a’r fuwch yn cyrraedd sefyllfa ble y mae angen triniaeth gwrthfiotig arni.

Meddai Iwan: “Ein hethos fferm gyfan yn Hafod y Maidd yw ceisio torri’n ôl ar wrthfiotigau a dosau eraill rydym yn eu rhoi i’n gwartheg a’n defaid.

“Nid yw’r system yn cymryd lle hwsmonaeth neu reolaeth dda, rydym yn parhau i gadw llygad ar bopeth o hyd, ond mae unrhyw beth a all ein helpu ymhellach – a helpu i leihau’r angen am wrthfiotigau – o fantais.”

Mae Hufenfa De Arfon hefyd wedi gweithredu drwy helpu eu cynhyrchwyr llaeth i gofnodi eu defnydd o wrthfiotigau drwy weithio gyda’u milfeddyg a defnyddio offeryn cyfrifo gwrthfiotigau arloesol Cynhyrchwyr Cig Oen a Chig Eidion Cymru, sef adnodd cyfrifo gwrthfiotigau arloesol ar y we.

Mae hyn yn cynhyrchu’r data sydd ei angen i fonitro’r defnydd o wrthfiotigau mewn da byw, fel rhan o ddefnydd cyfrifol ohonynt.

Un ffermwr sy’n rhan o’r cynllun yw Malcolm Davies o Nyffryn ger Pwllheli, sydd hefyd yn un o ffermwr gyfarwyddwyr Hufenfa De Arfon.

Meddai Malcolm: “Roeddwn i’n gweld yr ymdrech yn ddefnyddiol iawn ac yn llawer symlach nag oeddwn i’n ei ragweld. Mae’n bwysig iawn i’r hufenfa fod gan gwsmeriaid hyder llwyr ynddi drwy allu olrhain ansawdd ei chaws a’i chynnyrch llaeth arall yn llawn o’r fferm i’r plât.”

Dywedodd Lois Williams, Swyddog Cydymffurfio Technegol Hufenfa De Arfon: “Mae ein ffermydd yn gweithio’n galed i gynhyrchu llaeth o’r ansawdd gorau 365 diwrnod y flwyddyn.

“Mae system Cynhyrchwyr Cig Oen a Chig Eidion Cymru wedi ein galluogi ni, gyda chaniatâd y ffermwr, i dderbyn data ar y defnydd o wrthfiotigau gan ein haelodau fel ffermwyr unigol ac fel grŵp cydweithredol sy’n wirioneddol ddefnyddiol ac sy’n gallu gwirio defnydd cyfrifol o feddyginiaethau fferm.

“Mae ein cwsmeriaid manwerthu yn gofyn i ni yn rheolaidd am y defnydd o wrthfiotigau ar ffermydd ac mae’r cyfleuster hwn yn darparu’r data cywir sydd ei angen arnom i adrodd ar a gwella perfformiad ein busnes.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth ynglŷn ag ymwrthedd i wrthfiotigau, gan esbonio pam ei fod yn fygythiad a beth all pobl ei wneud i’w atal. Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn rhybuddio, os bydd ymwrthedd i wrthfiotigau yn parhau, na fyddai triniaethau rheolaidd fel cemotherapi, trawsblaniadau organau a gosod cymalau newydd yn bosibl mwyach. Mae dros 700,000 o bobl led-led y byd yn marw bob blwyddyn oherwydd heintiau sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau.

Ychwanegodd y Gweinidog Materion Gwledig: “Mae Grŵp Cyflawni AMR Anifeiliaid a’r Amgylchedd Cymru, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant ffermio, y proffesiwn milfeddygol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, yn enghraifft wych o’r dull Un Iechyd rydym yn ei gymryd drwy fynd i’r afael ag agweddau dynol, anifeiliaid ac amgylcheddol ar fygythiad AMR gyda’i gilydd.

“Rwy’n annog pawb i ddysgu mwy yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthficrobaidd y Byd.”

Ceir rhagor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthficrobaidd y Byd yn https://www.who.int/campaigns/world-antimicrobial-awareness-week


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle