Beicwyr modur Outlaws yn codi £500 argyfer Apêl Cemo Bronglais!

0
319

Mae Clwb Beiciau Modur yr Outlaws wedi codi £500 argyfer Apêl Cemo Bronglais drwy gynnal taith i Aberystwyth.

Daeth mwy na 300 o aelodau beiciau modur o Gymru i’r drefar 10 Medi ar gyfer eu taith flynyddol.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Adrian Sherriff: “Fel clwbbeiciau modur rydym bob amser yn cael taith ym mis Medi igoffau ein haelodau sydd ‘Wedi mynd ond heb eu hanghofio’ sydd, yn anffodus, wedi marw dros y blynyddoedd.

“Ar ôl croeso mawr yn Aberystwyth y llynedd gan fusnesau a theuluoedd lleol, roedden ni’n meddwl y bydden ni’ndychwelyd eleni a cheisio codi ychydig o arian i elusen leoltra yno.

“Crybwyllwyd Apêl Cemo Bronglais i ni a, chan fod canserwedi hawlio bywydau llawer o’n ffrindiau a’n teuluoedd einhunain, fe benderfynon ni helpu. Fe wnaethon ni gynnig cyflei bobl gael taith piliwn neu lun ar Harley Davidson i godiarian. Casglwyd £232 ar y diwrnod a phenderfynodd y clwb eiwneud hyd at £500. Hoffem ddiolch i bawb am eucefnogaeth.”

Sefydlwyd Clwb Beiciau Modur Outlaw yn Chicago ym 1935 ac mae ganddo aelodau mewn 50 o wledydd ledled y byd, gangynnwys saith cangen yng Nghymru a mwy na 25 yn Lloegr.

“Mae’n frawdoliaeth,” ychwanegodd Adrian, sy’n byw ymMae Colwyn.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn adrodd bod yr Apêl bellachwedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawddeconomaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costauadeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwysrhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol igronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael eiddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ardraws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i Glwb Beiciau Modur Outlaws am eucefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu i’n helpu igyrraedd ein targed.” I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêlewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle