Clwb Triathlon Cerist yn rhoi er cof am ysgrifennydd

0
596

Cynhaliodd Clwb Triathlon Cerist ddigwyddiad er cof am eu hysgrifennydd John Williams a chodwyd £823 at ApêlCemo Bronglais.

Yn anffodus bu farw John ym mis Mehefin ar ôl caeldiagnosis o lymffoma nad yw’n Hodgkins ac roedd aelodauclwb Machynlleth am gefnogi’r Apêl i dalu teyrnged i’w waithcaled a’i gefnogaeth i’r clwb dros nifer o flynyddoedd.

Dywedodd trysorydd y clwb, Arwel Price: “Roedd John yngefnogaeth wych i’r aelodau, gan eu hannog i gymryd rhan a helpu gyda hyfforddiant. Fe benderfynon ni mai teyrngeddeilwng iddo fyddai triathlon cymdeithasol anghystadleuol ynLlyn Talyllyn, yn cynnwys nofio 800m, taith feicio 16 milltiro amgylch y llyn a rhediad 5k.

“Trefnwyd y digwyddiad gan y prif hyfforddwr Gary Thapa ac roedd yn gyfle i bobl roi cynnig ar ddisgyblaethau’rtriathlon, gan wneud cymaint neu gyn lleied ag y dymunent.

“Cymerodd dros 60 o aelodau, teulu a ffrindiau ran ac roeddyn hyfryd gweld gwraig John Lynn a’i ferch Sian yn cefnogiar y diwrnod. “Roedd yn ddiwrnod teimladwy ond hynodlwyddiannus, yn gyfle i sgwrsio a hel atgofion, ac rydym ynfalch o fod wedi codi dros £800 drwy ffioedd mynediad a rhoddion i’r uned lle cafodd John driniaeth.”

Yn y llun gwelir rhai a gymerodd ran yn y triathlon yn paratoiar gyfer eu nofio.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar i aelodau Clwb Triathlon Ceristam eu cefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu at yrApêl.

“Rydym yn falch iawn o adrodd bod yr Apêl bellach wedipasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawddeconomaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costauadeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwysrhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol igronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael eiddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ardraws Ceredigion a chanolbarth Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle