Cyfle i hysbysebu yn Coast to Coast 

0
229

Wrth i dymor ymwelwyr eleni ddod i ben, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn galw ar fusnesau lleol i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer 2023, drwy sicrhau gofod hysbysebu ym mhrif gylchgrawn ymwelwyr Sir Benfro, Coast to Coast.

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cyhoeddi rhifyn 41 o’r cylchgrawn llwyddiannus hwn yn ystod Pasg 2023, ac mae’n gyfle i fusnesau eu hyrwyddo eu hunain i filiwn o ddarllenwyr.

P’un ai a ydych chi’n gwerthu rhywbeth blasus neu unigryw, yn creu profiadau anturus neu’n hyrwyddo busnes hirdymor sydd angen codi ei broffil, mae Coast to Coast ar gael mewn cannoedd o fannau ledled y sir yn ystod y misoedd twristiaeth prysuraf.

Dywedodd Marie Edwards, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata’r Awdurdod : “Mae’r cyhoeddiad hwn, sy’n rhad ac am ddim, yn adnodd gwerthfawr iawn i ymwelwyr oherwydd mae’n cynnwys map, gwybodaeth am fysiau, tabl llanw a thrai, a llawer o wybodaeth am y Parc Cenedlaethol a’i draethau a’i deithiau.

“Mae llawer o gyngor ar sut mae cael y gorau o ddiwylliant, treftadaeth a chyfleoedd awyr agored anhygoel y Parc ar gael hefyd, ynghyd â thaflen ô Weithgareddau a Digwyddiadau y gall ymwelwyr a phobl leol eu mwynhau.”

Dechrau mis Rhagfyr 2022 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyhoeddiad y flwyddyn nesaf, felly cynlluniwch ymlaen llaw i archebu lle yn y cyhoeddiad poblogaidd hwn.”

Mae gwybodaeth hysbysebu Coast to Coast nawr ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/hysbysebu-yn-coast-to-coast-2023/, neu os hoffech chi siarad â rhywun yn uniongyrchol, anfonwch e-bost at advertising@pembrokeshirecoast.org.uk or call 01646 624823.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle