Dysgu am hanes Cymru mewn dim o amser

0
292
Llion Williams yn cyflwyno hanes Cymru cwta

Mae cân Yma o Hyd bellach wedi dod yn anthem i dîm pêl-droed Cymru ac yn ail anthem i Gymru.

Mae’r Mentrau Iaith wedi bod yn cyd-weithio â chwmni CânSing i greu adnoddau i bawb allu dysgu canu Yma o Hyd gan gynnwys fersiwn BSL (British Sign Language) yn y Gymraeg. Mae’r adnoddau ar gael i bawb am ddim ar wefan CânSing (Cân :: Yma o Hyd – CânSing (cansing.org.uk) lle mae’r geiriau, traciau sain, taflen i gefnogi’r dysgu a sgriniau rhyngweithiol. Mae hefyd fideos arbennig i ddysgu Yma o Hyd yn iaith BSL.

Llion Williams o flaen stadium Dinas Caerdydd

Medd Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru:

“Rydym mor falch o gefnogi’r adnoddau yma a gallu cynnig yr opsiwn i ddysgu’r gân yn iaith BSL. Mae’n sicrhau bod y gân ar gael i bawb a bod pawb yn gallu bod yn rhan o’r Wal Goch.”

Mae’r gân yn sôn am yr heriau i Gymru a’r Gymraeg yn hanes y wlad, ond mae’n rhoi gobaith hefyd – ry’n ni yma o hyd wedi’r cyfan! Er mwyn creu adnodd i ddysgu am hanes Cymru a’r Gymraeg mae’r Mentrau Iaith wedi comisiynu cwmni Mewn Cymeriad i greu fideo sydd yn sôn am yr heriau a’r llwyddiannau. Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg gydag is- deitlau a heb is-deitlau ar gael ar sianel YouTube y Mentrau Iaith (Mentrau Iaith – YouTube).

Llion Williams fel brenin Lloegr, Harry VIII

“Mae gan Mewn Cymeriad brofiad a sgiliau arbennig i gyflwyno hanes a chymeriadau Cymru mewn ffordd hwyliog iawn sy’n apelio at blant ac oedolion. Mae’n adnodd gwerthfawr ac rydym yn falch iawn o allu cynnig y fideo i bawb. Mae’n bleser gwylio’r anfarwol Llion Williams yn actio’n wych yn y fideo” eglura Daniela Schlick.

Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant yn cyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni. Mae’r Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol o Bartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru.

Dolenni:

CânSing Cymraeg: Cân :: Yma o Hyd – CânSing (cansing.org.uk)

CânSing Saesneg: Song :: Yma o Hyd – CânSing (cansing.org.uk)

Hanes Cymru – Cymraeg heb is-deitlau: https://youtu.be/48vLUHDEYCE

Hanes Cymru – Cymraeg efo is-deitlau Cymraeg: https://youtu.be/-uBqlj7mkWM

Hanes Cymru – Cymraeg efo is-deitlau dwyieithog: https://youtu.be/QvlrPL2LEoA

Hanes Cymru – Saesneg heb is-deitlau: https://youtu.be/gmhJO898JsI

Hanes Cymru – Saesneg efo is-deitlau Saesneg: https://youtu.be/OdPl4FwQEAk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle