Lynn yn codi arian ar gyfer Apêl er cof am ei gŵr

0
568

Er cof am ei gŵr John, mae Lynn Williams wedi codi£1,464 at Apêl Cemo Bronglais.

Yn anffodus bu farw John, cyfarwyddwr cwmni wediymddeol a pheiriannydd electronig, ym mis Mehefin yn 70 oed, ar ôl cael diagnosis o Lymffoma Nad Yw’n Hodgkins.

Dywedodd Lynn o Fachynlleth: “Dechreuodd John eidriniaeth yn yr uned cemotherapi yn Ysbyty Bronglais ac roeddwn i eisiau dweud diolch am y gofal a roddodd y staff iddo. Mae’r uned ddydd yn adnodd gwych yn Aberystwyth ac rwyf wrth fy modd bod y targed wedi’i gyrraedd ac y bydduned ddydd newydd ar gyfer y cymunedau lleol.

“Sefydlais y dudalen codi arian ac mae’n rhyfeddol faint syddwedi’i godi fel teyrnged iddo. Yn ogystal â bod yn dad i ddauo blant ac yn annwyl iawn gan ei dri o wyrion, roedd gan John fywyd prysur. Bu’n gyfarwyddwr Aber Instruments ynAberystwyth am flynyddoedd lawer ac yn un o sylfaenwyrBro Dyfi Community Renewables. Bu hefyd yn ysgrifennyddClwb Triathlon Cerist; roedd wrth ei fodd yn bod yn yr awyragored yng nghefn gwlad ac yn mwynhau beicio pellter hir.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar i deulu John Williams am eucefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu at yr Apêl.

“Rydym yn falch iawn o adrodd bod yr Apêl bellach wedipasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawddeconomaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costauadeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwysrhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol igronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael eiddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ardraws Ceredigion a chanolbarth Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle