Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr:/Menter Gorllewin Sir Gâr News

0
343

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ymholiad@mgsg.cymru.  

Coffi a Chlonc:

These sessions that have been held since the start of the lockdown period have restarted. Here’s a chance to get together and chat over a cuppa every Thursday morning at 10.30am on Zoom. This activity is suitable for learners or fluent speakers. To receive the link please contact ymholiad@mgsg.cymru

Paned a Sgwrs:

Yn ddiweddar mae’r Fenter wedi dod yn rhan o sesiynau Paned a Sgwrs yng Nghaffi’r Atom, pob ddydd Mawrth o 10-11yb. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Croeso i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl. I gofrestru, cysylltwch gyda alma@mgsg.cymru.  

Paned a Sgwrs:

Menter has recently become part of Paned a Sgwrs sessions at Caffi’r Atom Café, every Tuesday from 10-11am. A chance to chat and socialize over a cuppa. New speakers and fluent speakers welcome. To register, please contact alma@mgsg.cymru.

Sesiynau stori: 

Rydym eisoes wedi ail-gychwyn sesiynau stori mewn tair ardal sef Caerfyrddin ar ddydd Llun yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau am 10:30am. Yn Maesycrugiau/Llanllwni ar ddydd Mawrth yn Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni am 10:30am. Yn San Clêr ar ddydd Mercher yn Y Gât am 1:30pm. Ymunwch â ni yn y sesiynau stori wythnosol yma. Cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru.

Story sessions:

We have restarted our story sessions in three different areas- Carmarthen on Mondays in Sgiliau Play Centre at 10:30am. In Maesycrugiau/Llanllwni on Tuesday in Llanllwni “Church Room” at 10:30am. In St Clears on Wednesday at The Gate at 1:30pm. Join u sin our story and some singing every week. Contact gwawr@mgsg.cymru to register.

Clybiau Drama:

Mae’r Fenter a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal, Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm ac i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm. Mae’r clybiau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Cyfle i blant dysgu sgiliau, magu hyder a mwynhau. I gofrestru, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru. Diolch i Theatrau Sir Gâr am y croeso cynnes i’r theatr yn wythnosol.

Drama Clubs:

Menter and Theatr Genedlaethol Cymru are offering two drama clubs for local children, Clwb Joio Drama Club on Wednesdays for years 1-3 from 5-5.45pm and years 4-6 from 6-7pm. The clubs are held at the Studio, Lyric Theate, Carmarthen. An opportunity for children to learn skills, gain confidence and enjoy. To register, please contact alma@mgsg.cymru. Thanks to Carmarthenshire Theaters for the warm welcome to the theate on a weekly basis.

Adweitheg Babi:

Cynhelir cyfres o ddosbarthiadau Adweitheg Babi yng ngofal Meleri Brown o Hafan Holistaidd yn Neuadd Gymunedol Ysgol Peniel. Diolchwn yn fawr i Meleri am y sesiynau yma, ac edrychwn ymlaen i gydweithio gyda sesiynau tebyg yn y dyfodol. 

Baby Reflex:

A series of classes of Baby Reflex with Meleri Brown from Hafan Holistaidd in Peniel School Community Hall. Thank you very much to Meleri for these sessions, and every family that joined us. We look forward to work together with other sessions in the future. 

Clwb Garddio:

Mae’r Fenter yn cydweithio gyda Cered – Menter Iaith Ceredigion i drefnu Clwb Garddio yn Yr Ardd, Pont Tyweli. Pob ail ddydd Sadwrn y mis o 11yb-1yp. Cyfle i blannu a thyfu llysiau, ffrwythau a blodau. Croeso i bawb; oedolion a theuluoedd (angen oedolyn yn bresennol gyda phlant a phobl ifanc o dan 18 oed). I gofrestru: llinos.hallgarth@ceredigion.gov.uk neu ymholiad@mgsg.cymru  

Gardening Club:

Menter is working with Cered- Menter Iaith Ceredigion to organise a Gardening Club in Yr Ardd, Pont Tyweli. Every second Saturday of the month from 11am-1pm. A change to plant and grow vegetables, fruit and flowers. A warm welcome to all; adults and families (an adults needs to be present with children and Young people under 18 years old). To register: llinos.hallgarth@ceredigion.gov.uk or ymholiad@mgsg.cymru  

Paned a phapur:

Mae’r Fenter yn ail gychwyn ar sesiynau Paned a Phapur yn Amgueddfa Wlân, Drefach Felindre. Mi fydd yr un nesaf ar y 23ain o Dachwedd am 12pm. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Croeso i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl. I gofrestru, cysylltwch gyda luned@mgsg.cymru.

Paned a phapur:

Menter is restarting with the Paned a Phapur in the Wool Museum in Drefach Felindre. The next one will be on the 23rd of November at 12pm. An opportunity to chat and socialise over a cuppa. A warm welcome for new speakers and fluent speaker. To register, contact luned@mgsg.cymru.

Clybiau Darllen:

Yn dychwelyd mae clybiau darllen y Fenter sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar y trydydd nos Fawrth y mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda nia@mgsg.cymru | betsan@mgsg.cymru   

Reading Clubs:

Returning are Menter’s reading clubs, that meet once a month on Zoom. The adult reading club meets every second Tuesday of the month on Zoom, and the reading club for Welsh learners meet on the third Tuesday of the month at 7pm. Here is an opportunity to socialise and discuss modern novels. For more information or register with nia@mgsg.cymru | betsan@mgsg.cymru   

Clybiau Cinio:

Yn dilyn llwyddiant mewn cais i gyllido prosiect mae’r Fenter yn trefnu cyfres o Glybiau Cinio yn Llanboidy a Cwmann. Bu’r digwyddiadau yn llwyddiannus iawn, gyda dros 70 o ddinasyddion hŷn wedi mynychu yn y ddau leoliad ar y 8/11/22 a 9/11/22. Y tro yma, pei a chrymbl oedd y bwyd blasus. Y dyddiadau nesaf ar gyfer clwb yn Llanboidy fydd, 13/12/22 a 10/01/23 ac yng Nghmwann ar 14/12/22 a 11/01/23. Am fwy o wybodaeth, am Llanboidy, cysylltwch gyda Betsan: betsan@mgsg.cymru a Chwmann gyda Luned: luned@mgsg.cymru neu drwy ffonio 01239 712934.

Lunch Clubs:

Following the success for project funding Menter have organised Lunch Clubs in Llanboidy and Cwmann. These events have been a success, with over 70 senior citizens attending in the two locations on the 8/11/22 and 9/11/22. This time, pie and crumble was on the menu. The next dates for the lunch clwb in Llanboidy is 13/12/22 and 10/01/23, and in Cwmann 14/12/22 and 11/01/23. For more information about Llanboidy contact Betsan: betsan@mgsg.cymru a Chwmann with Luned luned@mgsg.cymru or by phoning 01239 712934.  

Taith ysgolion – Shwmae Sumae:

I ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae eleni, aeth y Fenter a Magi Ann i ymweld ag ysgolion Myrddin, Santes Fair, Talacharn a Llanmilo ar daith ysgolion yn ardal Caerfyrddin a Dyffryn Taf. Cawsom groeso hyfryd ym mhob ysgol. Hefyd, diolch yn fawr i bawb wnaeth gefnogi’r amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau Shwmae Sumae gwnaeth y Fenter drefnu yn ystod ein pythefnos o ddathliadau.

Schools Shwmae Sumae Tour:

To celebrate Shwmae Sumae day, Menter and Magi Ann visited Myrddin, Santes Fair, Laugharne, St Mary’s and Llanmiloe schools in the tour of Carmarthen and Taf Valley. We had a warm welcome in every School. Also, thank you very much to everyone for supporting the different activities and events Menter held to celebrate Shwmae Sumae over a two week period.

Parti Calan Gaeaf:

Bu’r Atom a’r Fenter yn cynnal Parti Calan Gaeaf yn Yr Atom ar y 31ain o Hydref rhwng 10am-12pm. Gwnaeth y bore gynnwys sesiynau chwarae anniben, gemau, crefftau, amser stori a chystadleuaeth gwisg ffansi. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth fynychu’r bore.

Halloween Party:

The Atom and Menter held a Halloween party in the Atom on the 31st of October 10am-12pm. The morning consisted of messy play, games, craft, story time and a fancy dress competition. Thank you very much to everyone that joined us.

Un Noson Ola Leuad:

Gwnaeth Un Noson Ola Leuad gan Theatr Bara Caws ddod i Gaerfyrddin ar yr 2il o Dachwedd yn Neuadd San Pedr am 7:30pm. Bu hi’n noson wych, a hyfryd oedd gweld dros 200 o bobl yn y gynulleidfa yn llenwi’r theatr. Roedd yn sioe unigryw iawn a diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Un Noson Ola Leuad:

Un Noson Ola Leuad by Theatr Bara Caws came to Carmarthen on the 2nd of November in St Peters Hall at 7:30pm. It was a great event, and it was great seeing over 200 people in the audience filling the theater. It was an unique show, and thank you everyone for the support.

*Newydd* Yoga

Am gyfnod o 6 wythnos mi fydd Menter Gorllewin Sir Gâr yn cynnal sesiynau yoga ar Ddydd Mercher 11.1.23, o 1:15- 2:15pm yn Festri Capel y Priordy, Caerfyrddin. Am gyfnod o 6 wythnos, cost y sesiynau fydd £39. Mi fydd y sesiwn yn cynnwys symudiadau yoga, gweithio gyda’r anadl, ymlacio a myfyrio. I gofrestru, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru.

Hefyd, mi fydd sesiwn yoga am 6 wythnos yn dechrau ar Nos Iau y 12.1.23 am 7pm-8pm yn yr Atom yng Nghaerfyrddin am £39. Cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru.

*New* Yoga

For a 6 week period, Menter Gorllewin Sir Gâr will be holding yoga sessions on Wednesday 11.1.23 from 1:15-2:15 in Priordy Chapel Vestry, Carmarthen. For the 6 weeks, the cost for these sessions is £39. The session consists yoga postures, breath work, relaxation and meditation. To register, contact alma@mgsg.cymru.

Also, there will be a yoga for 6 weeks starting on Thursday the 12.1.23 at 7pm-8pm in the Atom in Carmarthen for £39. Contact alma@mgsg.cymru to register.

*Newydd* Sesiwn Ffitrwydd

Ar y 12.1.23 yn Studio 17 yn Hendygwyn, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn cynnal Sesiwn Ffitrwydd am 6:45-7:30 yh. Am gyfnod o 6 wythnos mi fydd y sesiynau’n rhedeg, a £30 fydd y tâl. I gofrestru neu unrhyw wybodaeth pellach, cysylltwch â betsan@mgsg.cymru.   

*New* Fitness Session

On the 12.1.23 in Studio 17 Whitland, Menter Gorllewin Sir Gâr are holding a fitness session at 6:45-7:30pm. The sessions will run for 6 weeks, and £30 is the total cost. To register or any further information, contact betsan@mgsg.cymru.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar 

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ymholiad@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch â ni ar y ffôn: 01239 712934. 

Social Media:

For the latest, visit our social media:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Twitter – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-mail – ymholiad@mgsg.cymru or for more information on how to get to these platforms contact 01239 712934. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle