Cyngor yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn

0
269

 Unwaith eto, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn, a gynhelir ddydd Gwener, 25 Tachwedd ac a ddilynir gan 16 Diwrnod Gweithredu.

White Ribbon yw prif elusen y DU sy’n ymgysylltu â dynion a bechgyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.

Er bod cam-drin domestig yn effeithio ar y ddau ryw, mae’r nifer fwyaf o ddigwyddiadau treisgar yn cynnwys dynion yn erbyn menywod. Ond yn y pen draw, mae trais gan ddynion yn erbyn menywod yn fater i bawb, nid dim ond menywod. 

Derbyniodd y cyngor statws achrededig Rhuban Gwyn y DU am y tro cyntaf yn 2018 ac mae’n parhau i weithio i fynd i’r afael â thrais o’r fath.

Bydd baneri’r Rhuban Gwyn yn cael eu chwifio yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin, Neuadd y Dref yn Llanelli a Neuadd y Dref yn Rhydaman ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn (dydd Gwener, 25 Tachwedd). Bydd Neuadd y Sir hefyd yn cael ei goleuo ar y noson i ddangos cefnogaeth.

Mae’r cyngor yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch ledled y sir – o glybiau chwaraeon, ymweliadau ar y cyd â’r heddlu ag adeiladau trwyddedig, ein canolfannau hamdden a’n llyfrgelloedd i orsafoedd bysiau.

Gan fod Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni yn digwydd yn ystod yr un wythnos â dechrau Cwpan y Byd Dynion FIFA, ni fu erioed amser gwell i ddod ynghyd a dechrau chwarae fel tîm i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.

Bydd y cyngor yn codi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch mewn digwyddiadau arbennig, gan gynnwys sesiwn Pêl-droed Cerdded yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman ar 30 Tachwedd a Noson yng Nghwmni Sam Warburton yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn (25 Tachwedd).

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol: “Mae’n hanfodol ein bod yn codi mwy o ymwybyddiaeth o gam-drin domestig fel bod unrhyw un y mae’n effeithio arno yn gallu cael cymorth a chefnogaeth gan un o’n gwasanaethau lleol.”

Gellir cael cymorth yn lleol gan: Threshold (Llanelli) drwy ffonio 01554 752 422 neu fynd i www.threshold-das.org.uk; Calan DVS (Rhydaman) drwy ffonio 01269 597 474 neu fynd i www.calandvs.org.uk; Gwasanaeth Cam-drin Domestig Caerfyrddin drwy ffonio 01267 238 410 neu fynd i www.carmdas.org a Goleudy drwy ffonio 0300 123 2996 neu fynd i www.goleudyvictimandwitnessservice.org.uk neu ffoniwch y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu ewch i https://llyw.cymru/byw-heb-ofn i gael cyngor a chymorth 24/7.

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch y Rhuban Gwyn, ewch i www.whiteribbon.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle