Annwyl Olygydd,
Gyda’r Nadolig ar y gorwel, mae Siôn Corn a’i gorachod yn gweithio’n ddiwyd i roi Nadolig hudolus i blant ledled Cymru.
Fel rhan o’i baratoadau, mae Siôn Corn wedi ffurfio partneriaeth gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) i sicrhau bod y llythyrau mae’n eu hysgrifennu at blant ar gael mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys sain, print bras, a braille.
Wrth gwrs, mae Siôn Corn yn siarad Cymraeg hefyd, felly gall pob plentyn dall ac â golwg rhannol gael llythyr yn eu dewis iaith!
Os ydych chi’n nabod plentyn sydd â nam ar y golwg a hoffai gael llythyr gan Siôn Corn, cysylltwch â ni.
E-bostiwch santa@rnib.org.uk erbyn 20 Rhagfyr i gael ymateb e-bost gydag atodiad print bras neu, ar gyfer llythyrau drwy’r post, ewch draw i www.rnib.org.uk/santa erbyn 2 Rhagfyr.
Ar ran Siôn Corn, ei gorachod, a phawb yn RNIB Cymru, Nadolig Llawen i chi!
Alison Thomas
Gweithredydd Trawsgrifio Arweiniol/Lead Transcription Executive
RNIB Cymru
Cwrt Jones
Stryd Womanby
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle