Dathlu ein ffermydd yn y Ffair Aeaf

0
267

Rôl Cyswllt Ffermio yw ysbrydoli a herio ffermwyr ledled Cymru i gael y gorau o’u systemau ffermio, i redeg busnesau fferm a choedwigaeth cystadleuol, gwydn a chynaliadwy. Ers 2015, mae Cyswllt Ffermio wedi helpu ffermydd Cymru i wneud yn union hyn drwy’r rhwydwaith arddangos.

Mae’r rhwydwaith wedi cynnwys 244 o ffermydd yn ystod y cyfnod hwn o 7 mlynedd ac wedi cynnal ymchwil ac ymarfer yn y sectorau cig coch, llaeth, dofednod, moch, tir âr, coedwigaeth a garddwriaeth drwy weithredu ac arddangos arloesedd a thechnoleg newydd i’r diwydiant ehangach.

Bydd Cyswllt Ffermio yn dathlu gwaith a chyflawniadau’r rhwydwaith arddangos yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2022 gyda chanlyniadau’r prosiect a’r treialon yn cael eu hamlygu ar draws stondin flaenllaw’r rhaglen, sydd wedi’i lleoli ar y balconi uwchben y cylch gwartheg.

Bydd llyfryn newydd sy’n rhoi cipolwg o’r gwaith a wnaed gan y rhwydwaith arddangos, gan gynnwys canlyniadau treial o ffermydd dros y tair blynedd diwethaf, hefyd ar gael i ffermwyr. Mae copïau digidol hefyd ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho ar wefan Cyswllt Ffermio yn www.llyw.cymru/cyswlltffermio.

Bydd digwyddiad anffurfiol hefyd yn cael ei gynnal i nodi’r gwaith diweddaraf a wnaed gan y 18 o ffermwyr safle arddangos a 38 o ffermwyr safleoedd ffocws presennol ddydd Llun 28 Tachwedd, gan ddod â’r rhwydwaith ynghyd yn adeilad Lantra Cymru.

Mae ffermwyr y rhwydwaith arddangos, ynghyd ag arbenigwyr o’r sector amaethyddiaeth a choedwigaeth, wedi bod yn arddangos ymchwil ar ystod o bynciau allweddol, gan gynnwys iechyd a lles anifeiliaid, technoleg, rheoli pridd, rheoli glaswelltir, rheoli coetiroedd, carbon a’r amgylchedd.

“Trwy’r gwaith hwn, mae ffermwyr wedi dysgu pa systemau sy’n gweithio’n dda a pha rai nad ydynt, drwy roi dulliau newydd neu wahanol ar waith i gyflawni eu nodau. Maent bellach mewn sefyllfa gystadleuol gryfach, mewn sefyllfa well i ddelio â chyfnewidiolrwydd y farchnad, i ffynnu a llwyddo,” meddai Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyswllt Ffermio, wrth siarad am y rhwydwaith arddangos.

Treialu a gweithredu ffyrdd mwy effeithlon a phroffidiol o reoli’r busnesau hyn yw prif nod pob prosiect rhwydwaith arddangos. Nid yn unig y mae hyn yn anelu at fod o fudd uniongyrchol i’r ffermwyr arddangos, ond hefyd i fusnesau tebyg eraill.

Yn ystod cyfnod y rhwydwaith arddangos, mae 904 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal ar safleoedd gyda 13,255 o fynychwyr yn dysgu am ganlyniadau prosiectau, gan roi cyfle i ffermwyr eraill roi’r canlyniadau ac arferion gorau ar waith yn eu systemau ffermio nhw.

Bydd y rhai sy’n mynychu’r Ffair Aeaf yn gallu dysgu mwy am y rhwydwaith arddangos trwy siarad ag aelodau o’r timau swyddogion technegol, sydd wedi bod yn allweddol wrth gefnogi ac arwain y ffermwyr arddangos yn y gwaith.

Wrth baratoi ar gyfer y Ffair Aeaf, soniodd y Rheolwr Datblygu Technegol, Siwan Howatson, sy’n goruchwylio holl weithgareddau’r rhwydweithiau arddangos am y llwyddiannau.

“Trwy roi ffocws Cyswllt Ffermio ar y rhwydwaith arddangos yn y digwyddiad blaenllaw hwn, rydym yn gobeithio y bydd yn annog ffermwyr i feddwl mwy am roi ffyrdd newydd, arloesol o weithio ar waith a chyflwyno technolegau newydd i wella perfformiad yn eu systemau ffermio eu hunain.”

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle