Mae gwell rheolaeth ar goetiroedd yn helpu cwpl ffermio o Ogledd Cymru i gyflawni eu nodau o fod yn hunangynhaliol o ran ynni a chynyddu bioamrywiaeth

0
210
Huw Beech with Dafydd Owen and Phil Morgan

Mae ffermwr defaid o Ogledd Cymru, Huw Beech a’i wraig Bethan, yn troi coetir fferm nad yw’n cael ei reoli’n ddigonol yn fenter cynhyrchu ynni cynaliadwy – prosiect maen nhw’n dweud na fydden nhw byth wedi’i ddychmygu oni bai am Cyswllt Ffermio. 

Fferm ddefaid ucheldirol 187 erw yw Plas yn Iâl, yn Llandegla, ger bwlch y bedol, sydd wedi bod yn nheulu Huw ers tair cenhedlaeth. Roedd mwy na 25 erw o goetir collddail yn bennaf wedi’u gadael heb eu rheoli ers dros 80 mlynedd, sef tua 18% o gyfanswm y fferm. Roedd rhai ardaloedd o dan ganopi caeedig ac yn dywyll, a oedd yn rhwystro unrhyw dwf newydd neu gyfleoedd i adfywio. 

Roedd Huw a Bethan, y ddau yn hyrwyddwyr ffermio cynaliadwy a oedd yn awyddus i gynyddu bioamrywiaeth ar y fferm, eisiau gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau er mwyn rheoli’r coetir yn rhagweithiol mewn ffordd gynhyrchiol a chynaliadwy. 

Yn 2014, gosododd y cwpl foeler sglodion pren 80kWth, buddsoddiad sydd wedi eu galluogi i gynhesu nid yn unig eu cartref teuluol hanesyddol, ond hefyd uned llety hunangynhwysol integredig.  

Yna, gan ganolbwyntio’n bennaf ar onglau cadwraeth a chynaliadwyedd, daeth yr her o ran y ffordd orau o reoli ac adfywio’r coetir. Gan wybod y byddai angen cyngor arbenigol arno, archebodd Huw le mewn digwyddiad Cyswllt Ffermio yn y Bala ar reoli coetir yn gynaliadwy, ychydig cyn y pandemig yn 2020.  

“Clywais gan gymaint o arbenigwyr yn y sector a agorodd fy llygaid i’r cyfleoedd nid yn unig i fynd i’r afael â’n pryderon amgylcheddol, ond cefais hefyd gyngor gwerthfawr ar leihau costau ynni ymhellach ac yn y tymor hwy, awgrymiadau ar sut y gallai’r coetir gynhyrchu incwm hefyd,” meddai Huw. 

Un o’r siaradwyr yn y digwyddiad hwnnw oedd mentor cymeradwy Cyswllt Ffermio, Phil Morgan o Drawscoed, sy’n arbenigwr coetiroedd a choedwigwr hynod brofiadol. Gwnaeth Huw gais am fentora un-i-un wedi’i ariannu’n llawn gyda Mr Morgan. Heddiw, tua dwy flynedd ar ôl i’w perthynas mentor/mentorai ddechrau, yn syth cyn i Blas yn Iâl ddod yn safle ffocws Cyswllt Ffermio, mae gan Huw’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i osod y coetir mewn cyflwr rheoli gwell.   

“Diolch i arweiniad Phil drwy’r rhaglen fentora a thrwy ei gyfraniad fel yr ymgynghorydd arweiniol ar gyfer ein prosiect safle ffocws, rydym wedi troi baich yn ased ac rydym ar y trywydd iawn i ddod yn hunangynhaliol o ran ynni.  

“Rydym wedi cynyddu bioamrywiaeth y fferm ac rwy’n obeithiol y byddwn yn sicrhau trwydded torri coed yn fuan er mwyn gweithredu’r cynllun coedwigaeth gorchudd parhaus y bu Phil yn ein helpu i’w lunio.”

Cynhaliodd y prosiect safle ffocws ym Mhlas yn Iâl arolygon tir a dronau i greu un cynllun rheoli coedwigaeth gorchudd parhaus. Dangosodd yr arolygon fod cyfaint y coetir yn cynyddu ar gynyddiad amcangyfrifedig o tua 90 tunnell o bren y flwyddyn. Mae ganddynt alw am oddeutu 30 tunnell o danwydd coed y flwyddyn, sy’n golygu y gallai cyflwyno coedwigaeth gorchudd parhaus fel techneg rheoli coedamaeth ddarparu 60 tunnell o bren gwerthadwy bob blwyddyn.

Mae Mr Morgan yn esbonio bod coedwigaeth gorchudd parhaus yn golygu bod coed unigol yn cael eu cwympo i gynnal gorchudd coetir parhaol tra’n caniatáu cynhyrchiant pren masnachol, yn ogystal â chynyddu bioamrywiaeth ac atafaelu carbon tra’n adfywio’r coetir ar yr un pryd. 

“Mae coedwigaeth gorchudd parhaus yn system rheoli coedwigoedd carbon-effeithiol a all ddarparu buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sylweddol i lawer o ffermwyr, yn enwedig lle mai adfywio naturiol yw’r prif ddull recriwtio.”

Mae’r pren a gwympodd Huw a Bethan eisoes yn creu sglodion coed ar gyfer eu boeler biomas eu hunain ond wrth i’r coetir adfywio ymhellach, maent yn gobeithio cael mwy o bren i’w werthu neu i’w brosesu ar gyfer menter wasarn sglodion pren newydd.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru – ariennir y prosiect gan Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.   


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle